Grŵp bach: Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad wedi bod yn hynod o gyson.
Enillodd y blaid chwe sedd ym mhob un o'r tri etholiad cyntaf ac osgoi'r chwalfa etholiadol roedd rhai arolygon barn yn awgrymu, gan gadw pum sedd yn 2011.
Dim ond dau arweinydd sydd wedi bod ar y grŵp Cynulliad yn y cyfnod hwnnw, gyda (bellach Yr Arglwydd) Mike German wrth y llyw o 1999 tan gafodd Kirsty Williams ei hethol fel yr arweinydd benywaidd cyntaf ar blaid yn y Cynulliad yn 2008.
Cafodd y blaid lwyfan amlwg yn ystod y llywodraeth glymblaid gyda Llafur rhwng 2000-2003. Dywed y blaid eu bod wedi cyflawni nifer o bethau, gan gynnwys sicrhau £200 miliwn ar gyfer atgyweirio adeiladau ysgolion, rhewi taliadau presgripsiwn, a phecyn cymorth gwledig gwerth £60 miliwn.
Roedd 'na gysgod dros gyfnod Mr German fel Dirprwy Brif Weinidog yn sgil ymchwiliad heddlu a barodd 18 mis, yn edrych ar honiadau yn ymwneud â'i ddefnydd o gerdyn credyd corfforaethol tra'n gyfrifol am Uned Ewropeaidd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Hon oedd ei swydd olaf cyn troi at wleidyddiaeth yn llawn-amser. Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â dwyn achos yn ei erbyn.
Dim enfys
Mewn cynhadledd arbennig ym Mai 2007, pleidleisiodd y blaid yn erbyn ffurfio clymblaid "enfys, dolen allanol" gyda Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr, ergyd bersonol i Mike German, gan adael y ffordd yn glir ar gyfer llywodraeth glymblaid 'Cymru'n Un' Llafur-Plaid Cymru.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn sicr wedi ychwanegu lliw at y Cynulliad, os dim ond oherwydd yr amrywiaeth eang o deis sydd gan Peter Black. Roedd Eleanor Burnham, AC ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru am ddegawd, yn bresenoldeb hwyliog yn y siambr, ond roedd yn rhaid iddi ymddiheuro am gyfeirio at bobl Japan fel "Japs" mewn dadl.
Cafwyd ffrae ym Mae Caerdydd yn 2002 ar ôl i'r AC dros Sir Drefaldwyn, Mick Bates, fynd i'r sesiwn lawn wedi gwisgo fel Siôn Corn i godi arian at elusennau. Dywedodd y llywydd na fyddai'n galw aelodau i siarad yn y Siambr wedi "gwisgo'n anarferol".
Roedd sesiwn lawn arferol ym mhob ffordd ond un yn 2006 - wrth bleidleisio ar gynigion y dydd, cododd Mick Bates AC ei fys, dolen allanol a chwerthin. Daeth hynny ar ôl cerydd gan y Llywydd Dafydd Elis-Thomas. Fe wadodd Mr Bates fod yr arwydd wedi'i anelu at yr Arglwydd Elis-Thomas nag unrhyw un arall yn y Siambr.
Dywedodd: "Nid oedd fy arwydd wedi'i anelu at y Llywydd; mae gen i barch mawr tuag ato. Dangos i Rhodri Glyn Thomas pa fys i'w ddefnyddio ar system bleidleisio newydd y Cynulliad yr oeddwn i."
Roedd Mr Bates yn y penawdau eto yn 2010 pan gafwyd e'n euog o ddyrnu parafeddyg yn ystod noson feddw yng Nghaerdydd yn dilyn cyfarfod yn y Senedd.
Cyllideb
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi taro nifer o fargeinion er mwyn pasio cyllidebau'r llywodraeth. Yn 2011 fe ddaethon nhw i gytundeb gyda Llafur i wario £20 miliwn yn ychwanegol ar addysg y disgyblion tlotaf, thema a gafodd ei hailadrodd yn 2013, pan sicrhawyd £35 miliwn i ehangu polisi blaenllaw'r blaid, y grant amddifadedd disgyblion.
Yn 2014, maen nhw'n hawlio iddyn nhw sicrhau cytundeb gwerth £223 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd, unwaith eto i gynnwys gwariant ychwanegol ar addysg a hefyd i gwblhau ffordd gyswllt yn nwyrain Caerdydd ac addewid i beidio ag adeiladu ffordd liniaru'r M4 newydd cyn etholiad y Cynulliad.
Bu'r Democratiaid Rhyddfrydol bob amser y grŵp lleiaf yn y Cynulliad, ond maen nhw'n dadlau yn gyson iddyn nhw gael effaith fawr.
Bydd gwydnwch y blaid yn cael ei brofi'n llym yn yr etholiad ym mis Mai.