Etholiad 2017: Ymgeiswyr Canol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Etholaeth Canol Caerdydd yw'r etholaeth fwyaf amrywiol yng Nghymru. Mae un o bob pump o'r pleidleiswyr wedi cael eu geni y tu allan i'r DU.
Yn eu plith mae Mohammed Sarul Islam, cyn-gynghorydd Plaid Cymru sy'n sefyll ar ran UKIP a fe yw'r unig ymgeisydd sy'n cefnogi Brexit go iawn.
Er yn fewnfudwr o Bangladesh mae Mohammed Sarul Islam yn amddiffyn polisi UKIP o ddod â therfyn i fewnfudo drwy'r polisi "un mewn, un allan".
Dywedodd: "Rwy'n credu bod gan bob cenedl yr hawl i amddiffyn ei ffin. Mae UKIP yn ceisio efelychu polisi tebyg i Awstralia sy'n seiliedug ar bwyntiau a mae hynny i weld yn gweithio mewn gwledydd eraill."
Yn y refferendwm y llynedd, fe bleidleisiodd Caerdydd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio gwneud yn fawr o hynny er mwyn adennill y sedd a gollon nhw i Lafur ddwy flynedd yn ôl.
Mae'r ymgeisydd Eluned Parrott, cyn AC, yn mynnu ei bod yn derbyn canlyniad pleidlais y llynedd ond mae'n dweud nad yw pleidleiswyr wedi cael yr hawl i roi barn ar yr opsiynau i adael.
"Rhaid i ni roi'r cyfle i bobl ddweud ein bod am aros yn y farchnad sengl, ry'n am weld amodau'r cytundeb," meddai.
Mae'r ymgeisydd Llafur, Jo Stevens, yn amddiffyn mwyafrif o 4,981 o bleidleisiau. Ymddiswyddodd o gabinet Jeremy Corbyn er mwyn pleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50.
Mae'n dweud bod yr etholiad y tro hwn yn fwy cymhleth.
"Ry'n yn byw mewn amseroedd gwleidyddol ansicr felly mae pobl weithiau yn pleidleisio ar sail personoliaeth, weithiau oherwydd rhyw fater arbennig ac efallai y cawn weld y bydd pobl na sydd wedi pleidleisio o'r blaen yn pleidleisio ac efallai y bydd y bobl sydd wedi arfer pleidleisio ddim yn gwneud hynny y tro hwn."
Ben Smith, myfyriwr 19 oed o'r Coleg Cerdd a Drama sy'n sefyll ar ran y gwyrddion.
"Mae fy ymgyrch i," meddai yn canolbwyntio ar yr amgylchedd ac yn arbennig ar newid hinsawdd - rwyf am sicrhau bod hyn yn cael ei ddatrys yn y dyfodol."
Cyn-aelod o'r Blaid Ryddfrydol sy'n sefyll ar ran Plaid Cymru.
"Mae etholiadau yn newid," meddai, "ac rwy'n credu y bydd pobl yn sylweddoli mai dim ond un plaid fydd yn ffocysu ar Gymru a'i phroblemau.
"Wrth wynebu Brexit rhaid cael un blaid sy'n amddiffyn Cymru, dros ei swyddi a'r economi."
Cynghorydd o Lundain, Greg Stafford sy'n sefyll ar ran y Ceidwadwyr.
Yn ei ôl e Theresa May yw'r unig ddewis i drafod ymadawiad Prydain â'r Undeb Ewropeaidd.
"Brexit sy'n rheoli'r etholiad hwn," meddai, "ac rwy i wedi bod yn canolbwyntio ar egluro pam mai llywodraeth Geidwadol yw'r llywodraeth orau i sicrhau y ddêl orau o Ewrop ac i gynyddu masnachu gyda gweddill y byd a diogelu ffiniau."
Ychwanegodd: "Fe bleidleisiodd Canol Caerdydd dros aros ond mae pobl nawr wedi derbyn ein bod yn gadael ac felly Theresa May yw'r unig ddewis i wneud hynny."
Digon o amrywiaeth felly ar strydoedd Caerdydd a'r ymgeiswyr yn cynnig polisïau amrywiol.