Her newydd i Garry mewn cyfnod cyffrous yn wleidyddol

  • Cyhoeddwyd
Garry Owen

Mae Etholiad Cyffredinol yn un o'r cyfnodau mwyaf cyffrous a diddorol i unrhyw newyddiadurwr.

Mae'n amser gwych felly i fi ddechre ar swydd newydd yn fy hanes gyda BBC Cymru.

O nawr mla'n, fe fyddai mas ar yr hewl yn dilyn a thorri storïau, ac mae digon i'w drafod eisoes yn yr etholiad yma.

'Ail refferendwm yn anorfod'

Dechreues i'r wythnos yn Glasgow gyda grŵp darllen Cymraeg y ddinas.

Refferendwm annibyniaeth arall i'r Alban oedd y prif bwnc trafod a hynny ddiwrnod ar ôl rali annibyniaeth enfawr yn y ddinas, lle'r oedd 20,000 o bobl wedi ymgynnull.

Dyma i chi flas o'r sgwrs ges i gyda'r criw dros goffi.

Disgrifiad o’r llun,

Yr etholiad cyffredinol, nid llenyddiaeth, oedd y testun trafod wrth i Garry holi aelodau clwb darllen Cymraeg Glasgow

"Rwy'n teimlo ei bod hi yn anorfod y bydd refferendwm yn dod am yr eildro," meddai un.

"Un o'r heriau mawr fydd cynnal egni cadarnhaol a hefyd ennill cefnogaeth pobl sy'n eistedd ar y ffens neu wnaeth bleidleisio yn erbyn tro d'wetha."

"Mae lot o deimladau cymysg. Efallai bod teimlad mwy cry' o ran annibyniaeth oherwydd Brexit."

Ar ôl sgwrs ddifyr, roedd hi'n bryd i griw Glasgow fwrw mla'n â'u darllen. Stori arswyd oedd yn cael eu sylw. Gobeithio bod dim cysylltiad rhwng hynny â f'ymweliad i!

'Syrffedu ar Brexit'

Mla'n wedyn i Fanceinion. Siarad yw prif amcan grŵp sgwrs a chlonc Cymraeg y ddinas.

Siwtio fi i'r dim. Dewch mla'n te, dewch i 'siarad etholiad' gyda fi.

Disgrifiad o’r llun,

Aelodau Grŵp Sgwrs a Pheint Manceinion yn siarad gyda Garry ar raglen Post Cyntaf

"Rwy'n credu bod llawer o bobl wedi syrffedu ar Brexit. Ry'n ni ddim yn disgwyl newid mawr o ganlyniad i'r etholiad."

"Ychydig o ddiddordeb sy' hyd yma yn yr etholiad. Pobl wedi syrffedu â Brexit, ac ishe gweld gorffen i'r peth, heb feddwl be' ddaw wedyn."

"Etholiad Brexit yw yr etholiad yma."

Roedd hi yn amser i'r sgwrs droi wedyn at bynciau eraill... gan gynnwys y syniad o sefydlu côr meibion Cymraeg yn y ddinas!

'Poeni be ddaw nesa'

Neidio i dacsi a'i throi hi i'r stiwdio. "Salford, please," medde fi. "I am going to Stockport," medde y gyrrwr! Hmm, galle hynny fod wedi bod yn anffodus.

Llwyddo i gyrraedd Belfast ar gyfer pen y daith am y tro. Pleidiau yn cydweithio yw'r brif stori fan hyn a'r etholiad, heb os, yn troi o gwmpas aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Simon Rees yn rhoi darlun o'r sefyllfa wleidyddol yn Belfast

Dywedodd un: "Mae rhai o'r pleidie wedi cytuno i beidio sefyll mewn ambell etholaeth i roi gwell siawns i eraill.

"Mae yn gwestiwn o dactegau. Dyw Sinn Fein ddim yn sefyll lle dwi yn byw, er enghraifft."

"Rhaid cofio bod Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae pobl wir yn poeni am be' ddaw nesa.

"Dyw nhw ddim wedi danto, achos ma' nhw wedi bod trwy cyment yn y gorffennol, ond maen nhw yn becso."

Disgrifiad o’r llun,

Beth fydd cyfeiriad y Deyrnas Unedig wedi canlyniadau'r Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr? Mae Garry Owen ar daith i geisio gweld pa ffordd mae'r gwynt yn chwythu