Cyn-ymgeisydd Llafur yn galw am ddewis agored yn Arfon
- Cyhoeddwyd
Mae'r unig gynghorydd Llafur ar Gyngor Gwynedd yn dweud ei fod yn anhapus fod polisi rhestrau menywod yn unig y blaid yn ei atal rhag bod yn ymgeisydd Seneddol yn etholaeth Arfon - prif darged ymgyrch y blaid yng Nghymru.
Dywed Sion Jones fod y polisi yn "ofnadwy o rwystredig" iddo, ond mae'r blaid yn amddiffyn y cam sy'n anelu at "gydraddoldeb rhwng dynion a menywod".
Daeth Mary Griffiths-Clarke o fewn 92 pleidlais i gipio'r sedd oddi ar y cyn-AS Plaid Cymru, Hywel Williams yn etholiad cyffredinol 2017.
Am resymau iechyd ac ymrwymiadau gwaith, mae hi wedi tynnu'n ôl fel ymgeisydd Llafur y tro hwn.
Fel yr ymgeisydd Llafur yn etholiad Cynulliad 2016, fe gynyddodd Mr Jones ganran y bleidlais i'r blaid 7.8% wrth ddod yn ail i Blaid Cymru.
Mae'n dweud na allai "ddiystyru" y posibilrwydd o sefyll fel ymgeisydd annibynnol am ei fod yn rhwystredig ynghylch polisi i ganiatáu ymgeiswyr benywaidd yn unig.
'Colli cyfle'
"Os mae AS Llafur yn sefyll i lawr dwi'n dallt yn iawn y rheol lle mae 'na restr merched yn unig i gael mwy o ASau benywaidd," meddai.
"Ond yn fa'ma yn Arfon, 'dan ni mewn sefyllfa lle fi ydy'r unig aelod Llafur o'r cyngor a dwi'n teimlo bod y blaid yn colli cyfle yma.
"Byswn i'n barod i fynd allan i ymgyrchu 'fory, ond mae'n ofnadwy o rwystredig, does gen i ddim amheuaeth galla' i guro Hywel Williams."
"Rydw wedi cael gymaint o bobl yn gofyn os dwi'n sefyll a dwi 'di trio egluro hynny i'r blaid yn ganolog, bod angen dewis agored.
"Bydda'n cymryd amser i godi profile rhywun sydd ddim yn berson lleol, felly mae'n sefyllfa ofnadwy o rwystredig."
Polisi 'beiddgar'
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru bod y polisi yn un "beiddgar" i sicrhau cydraddoldeb rhwng dynion a merched o fewn y blaid yn San Steffan.
"Rhan allweddol o'r trywydd yma yw sicrhau bod gyda ni ymgeiswyr benywaidd yn achos seddau lle mae ASau Llafur Cymru yn ymddeol a seddau sydd o fewn ein cyrraedd yn yr etholiad nesaf," meddai.
"Rydym yn edrych ymlaen at ennill yn Arfon, a sicrhau'r nifer uchaf erioed o ASau benywaidd yn San Steffan."
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi penderfynu peidio â sefyll yn etholaeth Arfon fel rhan o gytundeb gyda Phlaid Cymru.
Yr ymgeiswyr sydd wedi cyhoeddi eu bwriad i sefyll yn yr etholaeth hyd yma ydy Hywel Williams i Blaid Cymru a Gary Gribben i Blaid Brexit.
Mae'r cyfnod enwebu ymgeiswyr yn dod i ben ar 14 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019