Sut mae ymdopi gyda heriau etholiad yn y gaeaf?

  • Cyhoeddwyd
Tywydd drwg adeg etholiadFfynhonnell y llun, NIKLAS HALLE'N

Efallai bod y Nadolig yn un o gyfnodau mwyaf rhyfeddol y flwyddyn - ond nid o reidrwydd ar gyfer cynnal etholiad.

Mae cynghorau Cymru yn wynebu'r etholiad cyffredinol cyntaf ym mis Rhagfyr ers canrif.

Maen nhw'n gyfrifol am drefnu'r gorsafoedd pleidleisio a'r cyfrifon ar draws eu hardaloedd.

Ond gyda thywydd y gaeaf a'r cyfnod cyn y Nadolig yn ei anterth, pa mor anodd fydd hi i awdurdodau lleol ymdopi ag etholiad?

Y flaenoriaeth yw sicrhau nad yw pleidleiswyr yn cael eu heffeithio gan "dywydd, amserlenni prifysgolion na hyd yn oed newidiadau i orsafoedd pleidleisio oherwydd dramâu'r geni," meddai Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru.

Byr rybudd

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dyddiadau nifer o etholiadau mawr - gan gynnwys y rhai ar gyfer cynghorau lleol, y Cynulliad ac Ewrop - wedi bod yn hysbys ymhell o flaen llaw.

Ond dyma'r eildro mewn tair blynedd i etholiad cyffredinol gael ei gynnal ar fyr rybudd.

Mae cynghorau wedi bod yn ymwybodol o'r tebygolrwydd o etholiad sydyn, ond gall peidio â gwybod y dyddiad nes yn gymharol ddiweddar arwain at broblemau ymarferol.

Efallai bod lleoliadau sy'n cael eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio neu ganolfannau cyfrif fel arfer eisoes wedi'u harchebu a bod yn rhaid anrhydeddu'r cytundebau hynny.

Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2017, cafodd holl bleidleisiau Caerdydd eu cyfrif mewn un ganolfan yng Ngerddi Sophia.

Ond nid yw'r lleoliad hwn ar gael ar 12 Rhagfyr oherwydd digwyddiad pêl-rwyd y diwrnod hwnnw, gyda chystadleuaeth gymnasteg yn syth ar ôl hynny.

Nid yw'r cyngor wedi cadarnhau lleoliad arall eto.

Mae Cyngor Torfaen wedi gorfod symud lleoliad y cyfrif, o Ganolfan Byw'n Egnïol Pont-y-pŵl i Stadiwm Cwmbrân oherwydd parti Nadolig.

Ychwanegodd ei fod "eisoes yn profi'n anoddach sicrhau" nifer o'r lleoliadau arferol oherwydd ciniawau a digwyddiadau Nadolig.

Mae cynghorau hefyd yn wynebu problemau staffio o gofio bod nifer eisoes wedi archebu gwyliau, tra bod cyfraddau salwch yn codi'n y gaeaf.

Y tywydd

Un peth allai darfu'n ddifrifol ar yr etholiad yw'r tywydd

Gwelwyd llifogydd sylweddol ledled Cymru yn barod eleni, yn enwedig yn Sir Fynwy, tra bod sawl rhan o Gymru dan eira ym mis Rhagfyr 2017 a 2018 pan roddwyd cyngor i bobl beidio â theithio.

Mewn ardaloedd gwledig, gallai hyn beri problemau go iawn o ran agor gorsafoedd pleidleisio a bod y siwrne i fwrw eu pleidlais yn anodd.

Mae'n amlwg y bydd yn rhaid sicrhau nad oes unrhyw broblemau wrth ddosbarthu'r blychau pleidleisio i'r cyfrifon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys: "Fe allai'r tywydd fod yn broblem go iawn i ardaloedd gwledig fel hyn.

"Ym mis Rhagfyr 2017 gwelwyd eira sylweddol ar draws y sir a byddai'n broblem go iawn cael y deunydd etholiadol i orsafoedd pleidleisio mewn lleoliadau gwledig iawn.

"Hefyd, byddai wedi bod yn broblem diogelwch i bobl sy'n mynd allan i bleidleisio."

Y tro diwethaf y cynhaliwyd etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr - yn 1923 - gwelwyd cwymp sylweddol yn nifer y bobl a bleidleisiodd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys yn Sir Benfro (-33.7%), Sir Ddinbych (-13%) a Sir y Fflint (-10%).

Felly mae cynghorau hefyd yn debygol o wynebu'r straen o sicrhau bod cerbydau graeanu nid yn unig yn blaenoriaethu'r prif ffyrdd ond yn chwistrellu'r strydoedd llai a meysydd parcio'r lleoliadau pleidleisio, yn ogystal â chadw palmentydd yn glir.

Bydd gwresogi lleoliadau hefyd yn gost ychwanegol, yn enwedig o gofio bod y canllawiau sy'n cael eu rhoi i gynghorau yn nodi y dylai drysau fod ar agor mewn gorsafoedd pleidleisio - ym mis Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Pe bai'r tywydd yn tarfu ar bethau, byddai'n golygu yn syml y byddai'n rhaid i'r datganiad ddod yn hwyr oherwydd ni ellir ei ohirio.

Ond os yw canlyniad yr etholiad yn agos iawn, gallai datganiadau hwyr o seddi gwledig fod yn anarferol o arwyddocaol.

Fodd bynnag, yn ôl arbenigwyr, does dim tystiolaeth o'r DU i awgrymu bod tywydd garw yn atal pobl rhag pleidleisio.

Yn ôl ymchwil Prifysgol Rhydychen, gwelwyd bron dim perthynas rhwng y tywydd a'r nifer a bleidleisiodd - yn hytrach mae pobl yn fwy tebygol o bleidleisio os yw'r ras etholiadol yn agos a bod gwahaniaeth cryf rhwng y prif bleidiau.

Cau ysgolion am ddiwrnod?

Mae nifer o gynghorau'n dal i ddefnyddio ysgolion cynradd fel mannau pleidleisio.

Nid yw cynghorau Abertawe a Chaerdydd wedi nodi unrhyw broblemau mawr o ran mynediad i ysgolion, er bod Caerdydd yn disgwyl na fydd rhai lleoliadau preifat fel canolfannau hamdden neu neuaddau ar gael.

Dywedodd llefarydd bod "trefnu etholiadau ar fyr rybudd mewn amgylchiadau gaeafol wastad yn her".

"Rydyn ni wrthi'n trefnu gorsafoedd pleidleisio. Bydd ysgolion ar gael ond mewn rhai achosion efallai y bydd lleoliadau preifat eisoes wedi'u harchebu."

Ffynhonnell y llun, John Li

Os bydd ysgol gynradd yn cael ei defnyddio i bleidleisio, mae'n golygu yn syml bod y plant yn cael diwrnod ychwanegol i ffwrdd o'r ysgol.

Ond gallai hynny olygu symud neu ganslo dramâu'r geni mewn cymunedau bach, fel Aber-miwl, ger Y Drenewydd ym Mhowys, lle mae'r ysgol gynradd a'r ganolfan gymunedol yn rhannu'r un cyfleusterau.

A allai rwystro myfyrwyr rhag pleidleisio?

Awgrymwyd y gallai etholiad ganol mis Rhagfyr, yn agos at ddiwedd tymor, effeithio ar bleidlais y myfyrwyr.

Efallai bod myfyrwyr wedi'u cofrestru i bleidleisio gartref ond dal i fod yn y brifysgol neu'r coleg ar ddiwrnod pleidleisio, neu i'r gwrthwyneb.

Yn ôl gwefan polisi addysg uwch WonkHE, 16 Rhagfyr yw dyddiad diwedd tymor mwyaf cyffredin prifysgolion y DU - ond mae nifer yn gorffen ar ôl hynny. Dim ond llond llaw sy'n gorffen cyn 16 Rhagfyr a chyn dyddiad yr etholiad.

Roedd yr etholiad diwethaf hefyd yn agos at ddiwedd tymor yr haf gyda rhai sefydliadau wedi gorffen dysgu ac eraill yn dal i fynd.

Mae arolwg barn YouGov yn awgrymu bod 70% o bleidleisiau myfyrwyr wedi'u bwrw yn eu hetholaeth gartref yn hytrach na'u cyfeiriad yn ystod y tymor.

Gall myfyrwyr gofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriadau cartref a'u cyfeiriadau yn ystod y tymor, ond dim ond unwaith y gallan nhw bleidleisio.

Nawr bod dyddiad yr etholiad yn hysbys, mae gan fyfyrwyr amser i gofrestru i bleidleisio yn y lleoliad priodol.

Pleidleisio drwy'r post

Mae'r Post Brenhinol eisoes yn wynebu'r streic genedlaethol gyntaf mewn degawd ar ôl i fwyafrif llethol o'r staff bleidleisio dros weithredu.

Gallai'r anghydfod rhwng y gweithwyr a'r cwmni ynglŷn â diogelwch swyddi, a thelerau ac amodau cyflogaeth ymestyn yn agos at y Nadolig gan darfu ar bethau.

Ffynhonnell y llun, Matthew Lloyd

At hynny, gallai'r Post Brenhinol gael eu gorlethu gan bost etholiadol hefyd.

Dywedodd ei fod yn dal i obeithio osgoi gweithredu diwydiannol.

Ychwanegodd y rheolwr gyfarwyddwr Shane O'Riordain bod "prosesau ar waith i darfu cyn lleied â phosib ar bethau i'n cwsmeriaid".

Ateb posib

Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn credu y gallai'r problemau posib ym mis Rhagfyr gael eu lleddfu drwy wasgaru'r pleidleisio dros gyfnod o ddau ddiwrnod.

Dywedodd y cyfarwyddwr Jess Blair: "Mae'n hollbwysig bod cynlluniau ar waith a bod pleidleiswyr yn cael gwybod yn iawn am eu dewisiadau pleidleisio, ble i fynd a beth i'w wneud ar ddiwrnod yr etholiad.

"O ystyried yr anawsterau y mae rhai awdurdodau yn eu cael wrth wneud trefniadau ar gyfer y diwrnod [yr etholiad], dylid meddwl yn y dyfodol am gynnal etholiad dros benwythnos, fel sy'n boblogaidd ledled Ewrop."