Plaid Brexit yn targedu seddi Llafur yn y cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Nigel FarageFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nigel Farage yn siarad mewn digwyddiad ym Mhont-y-pŵl ddydd Gwener

Mae Nigel Farage yn ymweld â de Cymru ddydd Gwener i lansio ymgyrch etholiadol Plaid Brexit yng Nghymru.

Mae'r blaid, dan arweiniad Mr Farage yn "targedu seddi traddodiadol Llafur", meddai Nathan Gill sy'n Aelod o Senedd Ewrop i'r blaid.

Yn ôl Mr Gill byddai pobl yng nghymoedd de Cymru "byth yn pleidleisio dros y Torïaid, ond mi fydden nhw'n pleidleisio dros blaid Brexit".

"Maen nhw i gyd yn seddi pobl sy'n cefnogi Brexit," meddai.

Ymgeisydd ym mhob etholaeth

Fe wnaeth Mr Farage gadarnhau y bydd gan y blaid ymgeisydd ym mhob un o'r 40 etholaeth yng Nghymru.

Ychwanegodd bod ganddo "ddim syniad" faint o seddi mae'n rhagweld y byddan nhw'n eu hennill.

"Pan wnes i lansio'r ymgyrch ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Ebrill eleni doedd gen i ddim syniad sut y byddwn ni'n gwneud," meddai.

Disgrifiad,

Gethin James o Blaid Brexit: 'Mae'n amser jyst gadael nawr'

"Ond fe wnaethon ni ddod i'r brig yng Nghymru, gan ddod yn gyntaf mewn nifer o lefydd.

"Os ydy pobl yn sylweddoli bod Llafur wedi troi eu cefnau arnyn nhw a bod Boris [Johnson] yn ceisio gwerthu car i chi sydd ag injan sydd ddim yn gweithio, pwy a ŵyr sut y gwnawn ni."

Beirniadu diffyg cydweithio

Dywedodd Mr Farage ei fod yn rhwystredig fod y Ceidwadwyr wedi gwrthod cydweithio gyda'i blaid, gan ddweud y byddai "cynghrair o blaid gadael yn ennill mwyafrif mawr iawn".

Ychwanegodd y byddai Plaid Brexit yn trechu Llafur mewn "nifer o etholaethau" yn ne Cymru pe bai'r Ceidwadwyr yn penderfynu peidio cynnig ymgeisydd.

Fe wnaeth Mr Farage hefyd herio Mr Johnson i ddadl arweinwyr rhwng y ddau ar gytundeb Brexit y Prif Weinidog.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan Gill (dde) wedi cefnogi penderfyniad Nigel Farage i beidio â sefyll yn yr etholiad

Fe wnaeth Mr Gill hefyd feirniadu cytundeb Mr Johnson ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Gill wrth BBC Cymru: "Mae Brexit Boris Johnson yn fwy neu lai union yr un fath â Brexit Theresa May, ac fe wnaeth bleidleisio yn erbyn hwnnw ddwywaith.

"Nid yw'n Brexit, ni fyddwn yn cymryd rheolaeth yn ôl.

"Fe wnaeth miliynau o bobl bleidleisio i gymryd rheolaeth yn ôl, ond dan gytundeb y Prif Weinidog rydym yn rhoi gormod o reolaeth i'r UE."

'Pragmatiaeth'

Mae Mr Gill wedi cefnogi penderfyniad Mr Farage i beidio â sefyll yn yr etholiad i geisio cael ei ethol yn Aelod Seneddol.

Dywedodd ei fod yn arwydd o "bragmatiaeth".

Ychwanegodd: "Mae'n llawer gwell i Nigel frwydro i ni ar yr awyr, gwneud yr holl ddyletswyddau cyfryngol, dod i Gymru a gwneud yn siŵr ein bod yn cael pobl sydd o blaid Brexit yn cael eu hethol er mwyn i ni gael effaith os bydd Senedd grog ar 13 Rhagfyr.

Mae gan Blaid Brexit bedwar aelod yn y Cynulliad - oll wedi symud o UKIP - a dau ASE yn cynrychioli Cymru.