'Sicrhau bod 50,000 yn llai o blant yn byw mewn tlodi'

  • Cyhoeddwyd
Child povertyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwil gan elusennau yn awgrymu bod 29.3% o blant Cymru yn byw mewn tlodi yn 2017-18

Mae Plaid Cymru yn honni y bydd 50,000 o blant yn llai yn wynebu tlodi petaen nhw'n ffurfio Llywodraeth Cymru.

Yn ôl yr arweinydd Adam Price mi fydden nhw'n cyflwyno taliad wythnosol o £35 ar gyfer teuluoedd incwm isel.

Mae Plaid hefyd yn yn addo cyflwyno gofal plant am ddim ar gyfer plant un i dair oed yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru sy'n cael ei reoli gan Llafur wedi cael cais i wneud sylw.

Mae Plaid Cymru wedi disgrifio y taliad fel un o'u prif polisïau ar gyfer etholiad cyffredinol 12 Rhagfyr - ond ni fyddai modd cyflwyno'r polisi hyd nes eu bod yn ennill mwyafrif yn etholiadau y Cynulliad yn 2021.

Dywed Mr Price mai nod ei blaid oedd sicrhau na fyddai'r un plentyn yng Nghymru yn wynebu tlodi.

"Mae modd osgoi tlodi a does dim esgus drosto," meddai.

"Er nad yw newid tlodi plant yn hawdd, yr hyn sy'n allweddol yw cael yr ewyllys wleidyddol angenrheidiol."