Angen i Lafur 'weithio'n galetach' i ddenu cefnogwyr Brexit

  • Cyhoeddwyd
drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Drakeford yn siarad ar ymweliad i ogledd-ddwyrain Cymru ddydd Iau

Mae angen i'r Blaid Lafur "weithio'n galetach" i egluro ei pholisi Brexit er mwyn denu pobl sydd eisiau gadael yr UE, yn ôl Mark Drakeford.

Roedd Prif Weinidog Cymru'n ymateb i adroddiadau fod y blaid yn newid ei strategaeth etholiad er mwyn denu pobl sydd o blaid Brexit.

Ond mynnodd Mr Drakeford y dylai'r DU aros o fewn yr UE.

Mae Llafur wedi addo cynnal refferendwm arall o fewn chwe mis ar ôl dod i rym.

Yn y refferendwm yna, byddai pleidleiswyr yn cael dewis rhwng aros yn yr UE a gadael gyda chytundeb wedi'i negydu gan Lafur.

'Dim awydd am refferendwm arall'

Dywed un ffynhonnell o fewn Llafur Cymru bod cynnig refferendwm arall yn "broblem sylfaenol".

"Mae 'na gryn wrthwynebiad i hynny. Does dim ots siarad am gytundeb allwn ni ei gael," meddai.

Dywedodd ffynhonnell arall bod pobl yn "cynhesu" at Lafur yng Nghymru ond nad oedd "unrhyw lefel o frwdfrydedd" am refferendwm arall.

Ond dywedodd ffynhonnell arall wrth BBC Cymru bod polau piniwn preifat Llafur yn "awgrymu'n gryf" fod gan y blaid lai i'w ofni mewn ardaloedd Gadael o'i gymharu ag ardaloedd Aros, a bod yr ymgyrch yn bositif yng Nghymru.

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae yna rai rhannau o'r DU lle mae angen i ni weithio'n galetach i egluro i bobl sy'n credu bod dyfodol y DU yn well y tu allan i'r UE [ac] y byddan nhw'n dal i allu pleidleisio dros hynny mewn refferendwm.

"Ond cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn mae'r dadansoddiad rydyn ni wedi'i wneud yn dangos yn glir i ni... mae angen i ni aros yn yr Undeb Ewropeaidd."