Dadl deledu Etholiad 2019 i'w chynnal yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Roedd dadlau tanbaid yn y Senedd yng Nghaerdydd nos Wener, wrth i gynrychiolwyr saith o bleidiau gymryd rhan mewn dadl deledu arbennig.
Ni ymddangosodd Boris Johnson na Jeremy Corbyn ar y rhaglen, gydag aelodau eraill o'r Ceidwadwyr a'r blaid Lafur yn dadlau yn eu lle.
Fe gafodd honiad Boris Johnson y gall "gael Brexit wedi'i gwblhau" o fewn wythnosau ei ddisgrifio fel "celwydd" ac fe gafodd Jeremy Corbyn ei feirniadu am beidio dangos ei safbwynt ar Brexit.
Roedd arweinyddion y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a'r SNP ar y rhaglen, yn ogystal â chyn-arweinydd y Blaid Werdd a chadeirydd Plaid Brexit.
Prif ysgrifennydd i'r trysorlys, Rishi Sunak, oedd yn ymddangos ar ran y Ceidwadwyr a llefarydd yr wrthblaid ar fusnes, Rebecca Long-Bailey, oedd cynrychiolydd y blaid Lafur.
Dywedodd Rishi Sunak, y byddai cytundeb Brexit Boris Johnson yn caniatáu i'r DU adael yr UE "o fewn wythnosau", gan ychwanegu ei bod yn bryd "symud ymlaen".
Ond dywedodd Caroline Lucas o'r Blaid Werdd ei bod yn "gelwydd" y gallai Brexit ddigwydd mewn wythnosau, a chytunodd arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon â hi, gan ddweud fod yr "holl beth yn dwyll" - ychwanegodd gan ddweud nad oedd y trafodaethau masnach wedi cychwyn eto, ac na allai hynny gael ei gwblhau o fewn y flwyddyn.
Amddiffynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson, ei pholisi i atal Brexit heb refferendwm arall, gan ddweud pe bai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill yr etholiad - byddai hynny ynddo'i hun yn bleidlais glir o blaid aros yn yr UE.
Dywedodd Richard Tice o'r Blaid Brexit y byddai ail refferendwm yn "drychineb" i ddemocratiaeth.
Ond roedd ymateb chwyrn yn y Senedd wrth i Rebecca Long-Bailey o'r blaid Lafur amlinellu safbwynt Jeremy Corbyn i drafod bargen Brexit newydd o fewn tri mis, cyn cynnig y fargen newydd mewn refferendwm arall.
Ond fe dderbyniodd Adam Price o Blaid Cymru gymeradwyaeth gan y gynulleidfa pan feirniadodd Jeremy Corbyn am fethu â dweud lle'n union mae'n sefyll ar Brexit.
Galwad am ymchwiliad cyhoeddus
Fe alwodd Long-Bailey hefyd am ymchwiliad cyhoeddus i'r hyn a ddigwyddodd yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Roedd Ms Long-Bailey yn cael ei herio gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ar record Llywodraeth Lafur ar y GIG yng Nghymru.
Pan ofynnwyd iddi am yr adolygiad annibynnol damniol i wasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd, dywedodd Ms Long-Bailey, "Nid wyf yn gwybod am yr achos y cyfeirir ato, ond gan wybod o fy mhrofiad cyfreithiol, dylid cynnal ymchwiliad cyfreithiol llawn ac ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiad hwn sy'n swnio'n erchyll."
Cafodd gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg eu rhoi mewn mesurau arbennig ar ôl i adolygiad annibynnol gyflwyno casgliad damniol ar wasanaethau mamolaeth.
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Lafur Cymru ei fod eisoes wedi ymyrryd ac "nid oes sail i gefnogi proses ychwanegol i'r ymyriadau yr wyf eisoes wedi'u gwneud."
Yn dilyn yr adroddiad annibynnol gan ddau goleg brenhinol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, sefydlwyd panel annibynnol i fonitro gwelliannau yn y bwrdd iechyd.
Cynrychiolwyr y saith plaid nos Wener
Ceidwadwyr: Rishi Sunak
Llafur: Rebecca Long-Bailey
Democratiaid Rhyddfrydol: Jo Swinson
SNP: Nicola Sturgeon
Plaid Cymru: Adam Price
Y Blaid Werdd: Caroline Lucas
Plaid Brexit: Richard Tice
Mae'n bosib gwylio'r ddadl yn ôl ar BBC iPlayer.