Andrew RT Davies: 'Gall arian yr UE ddod o San Steffan'

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies

Gall arian sydd â'r bwriad o gymryd lle nawdd o'r Undeb Ewropeaidd ddod yn uniongyrchol o San Steffan yn hytrach nag o Fae Caerdydd, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Fe gwestiynodd Andrew RT Davies - a ymgyrchodd dros adael yr UE - pam mai Llywodraeth Cymru ddylai ddelio â'r arian.

Dywedodd Mr Davies hefyd nad oes angen Etholiad Cyffredinol.

'Diogelu arian Cymru'

Mae Cymru'n derbyn £1.8bn o Nawdd Stwythurol Ewropeaidd yn rhaglen 2014-2020, tra bo ffermwyr yn derbyn £240m gan gynllun Polisi Amaethythol Cyffredin yn 2014 yn unig.

Ar hyn o bryd, mae'r arian yn cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Davies: "Mae hi'n hanfodol bod Cymru'n cael ei diogelu, a bod cymunedau sydd wedi gweld yr arian yma'n cael ei wario yn cael hyder y bydd yr arian yn parhau, dim ots os yw'n dod o'r Trysorlys yn Llundain neu gan Llywodraeth Cymru."

Ond ychwanegodd: "Gall yr arian yna ddod yn syth o San Steffan.

"Pam ddylai Llywodraeth Cymru ddelio â'r arian?"

Ychwanegodd, ar ôl i Fesur Cymru gael ei basio, "ar ôl trafodaethau gydag Ewrop, bydd modelau eraill y gallwn ni eu datblygu a gall San Steffan edrych ar ffyrdd eraill o ddosbarthu arian i Gymru, sydd ddim o reidrwydd angen dod trwy'r ffyrdd traddodiadol sydd wedi datblygu ers 1999".

Dywedodd nad oedd angen pleidlais arall yn San Steffan.

"Dim ond 14 mis yn ôl y cafodd llywodraeth San Steffan ei hethol - roedd y refferendwm yn rhan allweddol o'r maniffesto, felly roedd pawb yn deall bod y refferendwm ar ei ffordd," meddai.

"Dydw i ddim yn gweld bod angen cynnal Etholiad Cyffredinol oherwydd canlyniad y refferendwm."