Gadael yr UE: 'Cymru'n rhwydo i'w gôl ei hun?'
- Cyhoeddwyd
Yn sgil penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Sian Morgan Lloyd, Darlithydd Newyddiaduraeth gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn taro golwg ar y sefyllfa.
Mae hi'n canolbwyntio ar y sylw a roddwyd i Gymru yn y wasg, cyn ac ar ôl y bleidlais, a beth sydd nesaf i Gymru wedi'r bleidlais.
Wel, ma' nhw yma. Mae gohebwyr o dros y ffin wedi cyrraedd ac wedi cymryd diddordeb yng Nghymru fach.
Ac mae newyddiadurwyr Cymraeg yn cael llwyfan i'w gwaith tu hwnt i gyfryngau Cymru hefyd. Am unwaith gyfeillion, mae Cymru yn cael sylw'r wasg Brydeinig a chynulleidfaoedd mawr Lloegr.
Dros y penwythnos weles i hyd yn oed geiriau Cymraeg ar wefan yr Independent: "Twrcyn pleidleisio i Nadolig."
Dyw'r Gymraeg ddim yn gywir, na, ond mae bodolaeth yr iaith yn cael ei hadnabod o leiaf! Ond y cyd-destun oedd, wrth gwrs, disgrifiad arall o sut mae Cymru wedi gwneud cam ar ei hun drwy bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae sylw'r papurau a gwasanaethau newyddion adnabyddus wedi ei hoelio ar yr ardaloedd hynny sydd yn derbyn cannoedd ar filoedd o bunnoedd gan Ewrop, ond wnaeth bleidleisio dros adael yr Undeb.
Eironi
Fe wnes i ddarllen erthygl Carole Cadwalladr ar wefan y Guardian gyda chalon drom. Yn y darn, sydd yn canolbwyntio ar dref Glyn Ebwy ym Mlaenau Gwent (lle wnaeth 62% o'r boblogaeth bleidleisio i droi cefn ar Ewrop) mae'r awdur yn datgan:
"Mae hi'n dref gyda bron dim mewnfudwyr wnaeth bleidleisio i gael gwared ar fewnfudwyr. Tref sydd wedi gweld llif o arian UE i mewn iddi, sydd bellach ddim eisiau bod yn rhan o'r UE."
Mae dyn ifanc sydd yn cael ei gyfweld yn dweud yr un peth a hen ddyn o gymoedd y de oedd ar raglen 'News at 10' y BBC nos Sul: "Ni'n rhoi mewn mwy na'r hyn ni'n cael mas." Ac mae'r eironi yn gwneud headline news.
Dyma dystiolaeth o fethiant anferthol yr ymgyrch i aros mewn a'r wybodaeth amheus sydd ar flaen bysedd trigolion sydd, heb os, yn byw mewn ardaloedd sydd wedi elwa o fuddsoddiad Ewrop.
Mae'n ymddangos bod dros hanner y boblogaeth wedi methu cysylltu gyda materion Cymreig y refferendwm, na'r gwleidyddion wnaeth arwain yr ymgyrch i aros. Gallai sgil effeithiau'r methiant yna gael ei deimlo yma am flynyddoedd lawer.
Fe wnaeth ymgyrch lwyddiannus yr ochr i adael ganolbwyntio'n bennaf ar ddau beth. Dau beth aeth at wraidd anfodlonrwydd a pharanoia cyhoeddus - mewnfudo a'r gwasanaeth iechyd.
Ie wir, cafodd neges Nigel Farage a'i blaid ei chlywed yn glir yn y cwm, ac mae hynny'n destun pryder, nid yn unig i'r Blaid Lafur, ond i'r mwyafrif o wleidyddion ym Mae Caerdydd a San Steffan sydd eisiau dal eu seddi etholedig.
Heb sôn am y rhai wnaeth bleidleisio i adael ac sy'n ofn bod canran sylweddol o boblogaeth Cymru yn ymddangos fel petai nhw'n cyd-fynd gyda gwleidyddiaeth asgell dde, Brydeinig. Hyd yn oed os mai rhoi cic i'r sefydliad oedd y bwriad gan rai.
Diffyg gwasg annibynnol?
Y cwestiwn mawr yw pam? Does dim amheuaeth bod papurau fel y Daily Mail wedi cyfrannu'n helaeth at liwio'r farn gyhoeddus yng Nghymru.
Dyw'r wasg erioed wedi bod yn gryf yma ond mae toriadau ciaidd wedi gwanhau a thlodi newyddiaduraeth a'n gwasanaethau newyddion i lefelau peryglus, ac mae'n rhaid ystyried a chymryd cyfrifoldeb am hynny wrth ddadansoddi canlyniadau'r refferendwm.
Un o'r prif resymau y mae'r Alban bellach mor wahanol i ni yw oherwydd bod gan y wlad wasg gref ei hunain. Mae'r wasg yna, boed yn dabloid gyda thuedd neu ddim, wedi gallu trosglwyddo gwybodaeth sydd yn berthnasol i'r Alban ar adeg mor bwysig i ddyfodol y wlad.
Ddylen ni ddim anghofio'r ardaloedd hynny wnaeth bleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd chwaith. Caerdydd, ein prif ddinas a chartref i bobl o bob cwr o'r byd, sydd (gyda'r Fro a Sir Fynwy) yn cyfrannu yn helaeth i economi Cymru.
Ac yna'r ardaloedd mwy traddodiadol Gymreig fel Gwynedd a Cheredigion. Ai gwleidyddion Plaid Cymru sydd wedi llwyddo i gysylltu gyda'r pleidleiswyr neu ydy pobl yr ardaloedd yma yn adnabod agenda cenedlaetholdeb Saesnigaidd pan mae'n cnocio ar y drws?
Beth bynnag yw'r ateb, fe fethodd gwleidyddion, y cyfryngau a'r wasg yng Nghymru ar y cyfan i gydio mewn dychymyg, a chynnau brwdfrydedd dros y refferendwm. Mae'n anffodus iawn pa mor agos i etholiad y Cynulliad ddaeth y bleidlais, ond dyw hynny ddim yn esgus chwaith.
Nawr, mae cwestiynau am ddilysrwydd y bleidlais wedi codi yn sgil cyfres o gyfaddefiadau gan arweinwyr yr ymgyrch i adael bod pethau wedi cael eu haddo na fydd yn bosib, wedi'r cwbl.
"I Bregrexit" meddai rhai, sydd yn difaru pleidleisio i adael yr Undeb. Mae miloedd wedi arwyddo deiseb yn galw am ail refferendwm.
Mae deiseb arall yn galw ar Faer Llundain, Sadiq Khan, i gymryd Llundain allan o'r DU ac mewn i'r EU! Ac wrth gwrs yn Yr Alban mae digon o drafod am refferendwm arall ar annibyniaeth yn barod.
Ond beth yw'r dyfodol i Gymru? Mewn amser, cyn diwedd yr wythnos hyd yn oed, bydd llai o sylw i'r wlad unwaith eto gan y cewri dros y ffin.
Gyda'r Alban yn ystyried annibyniaeth o ddifrif a Gogledd Iwerddon yn rhannu ffin fregus gyda Gweriniaeth Iwerddon, nid ar Glawdd Offa fydd sylw San Steffan wrth drafod telerau Brexit, nac yn y dyfodol agos chwaith dybiwn i.
Llwyddiant Cymru yn Ewrop
Mae'r bleidlais hon wedi hollti barn, mae'n bygwth hollti cymunedau a gwlad. Mae angen chwilio am atebion a brwydro am degwch mewn cyfnod o heriau heb ei debyg o'r blaen i wleidyddiaeth a chymdeithas Cymru.
Ac wrth i ni ddod i delerau gyda'r canlyniad a'i goblygiadau, mae'r wlad yn dathlu llwyddiant hanesyddol i'n tîm pêl-droed. Mae dwy stori wedi hawlio'r penawdau dros yr wythnos ddiwethaf a'r ddwy wedi dod a sylw annisgwyl ond amlwg i Gymru.
Oes gobaith felly i wlad mor angerddol dros ei thimoedd cenedlaethol, a phobl sydd mor barod i uno mewn cefnogaeth, cenedlaetholdeb a chân ar ddiwrnod gêm fawr, ddarganfod undod a hunaniaeth fel cenedl? Wedi'r cwbl, ry'n ni ar gae chwarae Brexit, gêm wleidyddol fwyaf hanes diweddar.