WLGA: 'Dim angen brysio i adael yr Undeb Ewropeaidd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r sefydliad sy'n cynrychioli cynghorau Cymru yn dweud "nad oes angen brysio" i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Steve Thomas, bod rhaid i'r Prif Weinidog nesaf roi addewidion am wariant cyhoeddus cyn dechrau'r broses o adael yr UE.
Ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, na ddylid oedi'r broses o adael.
Ond dywedodd Aelod Senedd Ewrop Cymru, Derek Vaughan, y dylai safbwynt trafod Llywodraeth y DU fod yn amlwg yn gyntaf.
Erthygl 50 yw'r enw ar y broses ffurfiol o adael yr UE, ar ôl y cymal perthnasol yng nghytundeb Lisbon 2007.
'Sefydlogrwydd'
"'Da ni eisiau sicrhau cymaint o sefydlogrwydd a phosib," meddai Mr Thomas.
"Does dim angen brysio - cysondeb a sefydlogrwydd yw'r allwedd.
"Mae'n rhaid i'r Prif Weinidog nesaf ddechrau Erthygl 50 ond mae angen sicrwydd bod arian yn ei le."
Yn ôl Mr Vaughan, safbwynt holl sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yw dechrau'r broses o'r DU i adael yn syth.
"Mae Aelodau Llafur yn Senedd Ewrop yn cymryd safle ychydig yn wahanol," meddai.
"Fe fyddwn ni'n dweud ein bod angen gwybod yn glir gan Lywodraeth y DU beth yw'r safbwynt trafod cyn i ni ddechrau'r broses o adael.
"Ydyn nhw eisiau mynediad i'r farchnad sengl, neu ryw drefniant arall?"
Dywedodd Mr Jones ddydd Mawrth: "Fy marn i yw y dylai erthygl 50 ddechrau cyn gynted ag y bo modd yn hytrach nag yn nes ymlaen.
"Dw i'n credu bod aros am fisoedd ar fisoedd yn ychwanegu at yr ansicrwydd.
"Mae'n well i bobl wybod ble maen nhw'n sefyll yn hytrach na pheidio â gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd am fisoedd a blynyddoedd.
"Dyw ansicrwydd byth yn mynd i fod o help yn nhermau buddsoddiad."