Angen i'r Cynulliad 'gymeradwyo' cynllun i adael yr UE
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai'r Cynulliad gymeradwyo'r cynllun i adael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Cymru, meddai Leanne Wood.
Mewn araith yng Nghaerdydd, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru gyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio ymateb "ar frys" yn dilyn y refferendwm.
Dywedodd hefyd y dylai'r opsiwn o Gymru annibynnol gael ei ystyried os ydi'r Alban yn gadael y Deyrnas Unedig.
Mae'r BBC wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am sylw.
Fe wnaeth Cymru bleidleisio o 52.5% i 47.5% o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm fis Mehefin.
'Argyfwng'
Daeth cynnig gan Ms Wood hefyd i weithio gyda'r llywodraeth gan ddweud ei bod yn "fwy na bodlon i rannu talent, uchelgais ac egni Phlaid Cymru".
Mae hi hefyd yn dweud y dylai Cymru fod mewn sefyllfa i drafod erbyn i olynydd newydd i David Cameron gyrraedd 10 Downing Street.
Dywedodd Ms Wood: "Ble mae'r angen i ymateb ar frys? Ble mae'r teimlad bod hwn yn argyfwng? Ble mae'r ddirprwyaeth i fynd i Frwsel ac i brifddinasoedd Ewropeaidd eraill?
"Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a pharatoi safbwynt trafod swyddogol Gymreig ar gyfer gadael yr UE. Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol graffu ar y safbwynt hwnnw a chytuno arno, fel ei fod ar gael erbyn i Brif Weinidog newydd y DG ddod i'w swydd."