Arolwg: Cymru'n 'cefnogi' aros yn yr UE wedi'r refferendwm
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg barn newydd yn awgrymu y gallai Cymru bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd pe bai refferendwm arall yn cael ei gynnal.
Mae arolwg YouGov, gafodd ei gomisiynu gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, yn rhoi Aros ar 46% a Gadael ar 41%, gyda 8% yn dweud na fydden nhw'n pleidleisio a 5% ddim yn gwybod.
Fe wnaeth Gymru bleidleisio o 52.5% i 47.5% o blaid gadael yr UE.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu bod cefnogaeth i'r Blaid Lafur yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd wedi gostwng i'w lefel isaf ers etholiad 2010.
Roedd yr arolwg newydd yn gofyn sut fyddai pobl yn pleidleisio pe bai ail refferendwm yn cael ei gynnal yfory.
'Ers y refferendwm'
"Os fyddwn ni'n cymryd y rhai sydd ddim yn gwybod neu fyddai ddim yn pleidleisio, mae'r canlyniadau'n rhoi 53% o blaid aros a 47% o blaid gadael," meddai'r Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd.
"Ond y geiriau pwysig yw 'ers y refferendwm'. Oni bai bod rhyw ffordd o newid neu ail-gynnal y bleidlais, gall eu barn gyfrif am ychydig iawn."
Ar gyfer etholiadau San Steffan, cafodd y pleidiau eu gosod fel a ganlyn:
Llafur - 34% (5% yn is nag yr arolwg diwethaf, gafodd ei gynnal ar ddechrau Mehefin);
Ceidwadwyr - 23% (1% yn uwch);
Plaid Cymru - 16% (2% yn uwch);
UKIP - 16% (2% yn is);
Democratiaid Rhyddfrydol - 8% (2% yn uwch):
Eraill - 3% (1% yn uwch).
Ar gyfer y seddi etholaethol yn etholiadau'r Cynulliad:
Llafur - 32% (2% yn is);
Plaid Cymru - 23% (dim newid);
Ceidwadwyr - 19% (1% yn uwch);
UKIP - 16% (1% yn uwch);
Democratiaid Rhyddfrydol - 7% (dim newid);
Eraill - 3% (dim newid).
Ar gyfer y seddi rhanbarthol yn etholiadau'r Cynulliad:
Llafur - 29% (3% yn is);
Plaid Cymru - 24% (3% yn uwch);
Ceidwadwyr - 18% (dim newid);
UKIP - 15% (1% yn uwch);
Democratiaid Rhyddfrydol - 6% (dim newid);
Eraill - 8% (1% yn is).
Y sgôr o 16% ar gyfer Plaid Cymru yn San Steffan yw'r gorau iddyn nhw wneud erioed mewn arolwg YouGov, meddai'r Athro Scully.
Yn seiliedig ar yr arolwg, dywedodd y byddai Llafur yn ennill 26 sedd o Gymru yn San Steffan (un yn fwy na'r presennol), byddai' gan y Ceidwadwyr naw (colli dwy) a byddai Plaid Cymru'n ennill pedair (cynnydd o un).
Ni fyddai canlyniad y Democratiaid Rhyddfrydol o un sedd yn newid.
Yn y Cynulliad byddai gan Lafur 26 sedd, Plaid Cymru 15, y Ceidwadwyr deg, UKIP wyth a'r Democratiaid Rhyddfrydol un.
Annibyniaeth
Roedd yr arolwg hefyd yn gofyn sut y byddai pobl yn pleidleisio ar refferendwm i wneud Cymru'n wlad annibynnol.
Dim ond 15% oedd o blaid, gyda 65% yn dweud na ac 20% yn dweud na fydden nhw'n pleidleisio neu nad ydyn nhw'n gwybod.
Pan ofynnwyd a fydden nhw'n cefnogi annibyniaeth pe bai Cymru'n gallu aros yn rhan o'r UE tra bo gweddill y DU yn gadael, dywedodd 28% y bydden nhw, gyda 53% yn dweud na ac 20% ddim yn gwybod.
Roedd gan yr arolwg ar gyfer ITV Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru sampl o 1,010 o oedolion o Gymru, a chafodd ei gynnal gan YouGov o 30 Mehefin i 4 Gorffennaf.