Neuadd Pantycelyn: gwacáu ar ôl dilyw

  • Cyhoeddwyd
PantycelynFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pantycelyn yn gartref i nifer o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith

Bu rhaid i ganoedd o fyfyrwyr adael neuadd preswyl yn Aberystwyth wedi i sinciau oedd wedi eu blocio achosi "cryn difrod".

Dywed Prifysgol Aberystwyth fod dŵr wedi treiddio trwy loriau Neuadd Pantycelyn gan effiethio'r system trydan ac actifadu'r larwm tân.

Ni wyddir os oedd y digwyddiad wedi'i achosi'n fwriadol ond mae'r brifysgol wedi datgan fod y rheiny oedd yn gyfrifol wedi eu canfod ac fe fyddan nhw'n wynebu mesurau disgyblu.

Ychwanegodd y brifysgol eu bod nhw'n asesu cost y difrod i'r adeilad a agorwyd ar ddechrau'r 1950au ond fe'i newidiwyd i fod yn neuadd Gymraeg ym 1974.

'mesurau disgyblu'

Cafodd y myfyrwyr eu cludo i ystafelloedd cynhadledd mewn adeilad cyfagos wedi i'r neuadd gael ei gwagio nos Fercher.

Mae trydanwyr a staff y Prifysgol wedi asesu'r difrod.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prifysgol: "Roedd 'na dipyn o ddifrod i'r adeilad am fod dŵr wedi treiddio trwy'r lloriau gan effeithio'r system trydan ac achosi'r larwm tân i ganu.

"Rydyn ni'n dal i asesu'r gost."

Gwnaeth y brifysgol asesu'r risg i'r myfyrwyr cyn iddynt ddychwelyd i'r neuadd ddydd Iau.

"Rydyn ni wedi canfod y person neu'r bobl oedd yn gyfrifol am y digwyddiad ac fe fyddan nhw'n wynebu mesurau disgyblu'r brifysgol," meddai'r llefarydd.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth gynllun gwerth rhwng £40m a £45m i adeiladu neuaddau newydd gan gynnwys un ar gyfer Cymry Cymraeg fyddai'n cymryd lle Neuadd Pantycelyn.

Mae'r neuadd wedi ei leoli ar Ffordd Penglais yn nhref Aberystwyth.

Yn y 1960au y bu'r Tywysog Charles yn aros yno wrth astudio Cymraeg cyn ei arwisgiad yn 1969.

Yn y neuadd, sydd â lle i 270 o fyfyrwyr, mae pencadlys Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ac yno mae nifer o brotestiadau wedi bod dros y blynyddoedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol