Ombwdsmon: Gofal claf yn Ysbyty Treforys yn 'wael iawn'

  • Cyhoeddwyd
Paul Ridd (canol) gyda'i deuluFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Roedd teulu Paul Ridd (canol) wedi beirniadu'r gofal

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi beirniadu ysbyty ar ôl i ddyn ag anableddau dysgu farw.

Dywedodd Peter Tyndall fod y gofal nyrsio a chlinigol wedi llawdriniaeth yn "wael iawn."

Roedd y gwyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg sydd wedi dweud bod dulliau gweithio wedi gwella.

Roedd yr ysbyty wedi cymryd yn ganiataol fod symptomau'r dyn yn seicolegol yn hytrach na bod yn glinigol.

Bu farw Paul Ridd yn Ysbyty Treforys, Abertawe, yn 53 oed yn 2009.

Fe fyddai wedi byw, meddai'r Ombwdsmon, petai'r gofal yn well - ac roedd y gofal nyrsio yn "annerbyniol ac yn ddifrifol iawn".

'Ansawdd uchel'

Bu farw o gymhlethdodau anadlu ar ôl cael ei symud o'r uned gofal dwys i ward gyffredinol.

"Pan oedd yn yr uned gofal dwys roedd y gofal o ansawdd uchel," meddai ei frawd, Jonathan Ridd.

"Ond pan gafodd ei symud i'r ward gyffredinol roedd fel bod yn un o wledydd y Trydydd Byd o safbwynt hylendid a gofal.

"Doedd dim arweiniad o gwbwl ..."

Yn ystod y pedair awr ola, meddai, roedd cynhaliwr Paul wastad yn erfyn ar staff i'w archwilio am fod ei gyflwr yn dirywio'n gyflym."

Mae teulu'r claf wedi croesawu'r adroddiad.

Llawdriniaeth

Dywedodd rheolwyr fod dulliau gweithio wedi gwella yn yr ysbyty a bod hyfforddiant ar gyfer meddygon a nyrsys fel bod modd iddyn nhw adnabod problemau yn y dyfodol.

Ychwanegodd y bwrdd iechyd eu bod hefyd wedi dechrau cyflwyno'r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Mr Tyndall.

Roedd y claf o Faglan ger Castell-nedd yn diodde o anawsterau dysgu difrifol oherwydd niwed i'r ymennydd yn ystod ei enedigaeth.

Aed ag i Ysbyty Treforys ar Ragfyr 21, 2008 yn diodde o broblemau gyda'r coluddyn ac fe gafodd lawdriniaeth.

Bu farw ar Ionawr 23, 2009.

Cwynodd ei frawd a'i chwaer am sawl agwedd ar y gofal.

Roedden nhw'n poeni ei fod wedi dal niwmonia tra oedd yn yr uned gofal dwys ac fe gafodd ei drosglwyddo yn rhy gynnar i ward gyffredinol.

Maen nhw wedi dweud bod y gofal yn wael yn ystod y dyddiau cyn iddo farw o broblemau mawr anadlu.

Yn yr adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher mae Mr Tyndall wedi dweud bod y pryderon am gyflwr Mr Ridd ar ôl iddo gael ei symud i ward gyffredinol wedi eu codi gyda staff.

Ymhlith ei gasgliadau mae wedi cyfeirio at:

  • Ddiffyg goruchwyliaeth;

  • Archwiliadau annigonol meddygon;

  • Diffyg o ran sicrhau bod y gofal yn dilyn Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

"Roedd y gofal nyrsio ar y ward yn annerbyniol," meddai Mr Tyndall.

'Yn poeni'

"Dwi wir yn poeni am lefel ddifrifol y gofal a roddwyd i Mr Ridd, gofal na ddylai fodoli yn y 21ain ganrif.

"Mae newidiadau cadarn a hir dymor yn gwbl allweddol.

"Ac mae'n allweddol bod y rhai sy'n darparu gofal nyrsio a chlinigol yn ymateb yn addas i her rhoi triniaeth i gleifion ag anableddau dysgu.

"Wnaeth hyn ddim digwydd."

Dywedodd Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru, y dylai'r achos fod yn "agoriad llygad" i weithwyr iechyd Cymru.

"Mae'n gwbl warthus bod rhywun yn mynd i'r ysbyty ... a bod y gobaith om oroesi'n llai am fod ganddyn nhw anableddau dysgu."

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod wedi ymchwilio ac wedi ymateb yn gyflym o ran gwelliannau, gan gynnwys cynyddu nifer y staff nyrsio, apwyntio prif weinydd nyrsio newydd i'r ward a sicrhau bod staff yn gorffen rhaglen addysgu a hyfforddi.

'Ymddiheuro'

"... rydym eisiau sicrhau'r cyhoedd bod y ward wedi gwella cryn dipyn ers y sefyllfa dros ddwy flynedd yn ôl," meddai llefarydd.

"Gallwn roi sicrwydd hefyd ein bod wedi defnyddio ein profiad o ddigwyddiad trasig i wella ein dulliau gweithio a gweithredu yn y bwrdd iechyd.

"Er ein bod yn derbyn yn llawn mai bach iawn o gysur yw hyn i deulu'r claf, mae'n bwysig eu bod yn gwybod bod y pryderon a godwyd wedi golygu bod gofal i eraill wedi gwella.

"Rydym yn ymddiheuro yn ddiffuant i'r teulu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol