Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad beic cwad a laddodd dyn ifanc

Bu farw Ethan Powell, 20, ar 31 Mai
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 41 oed wedi ei gyhuddo o sawl trosedd yn dilyn gwrthdrawiad yn ymwneud â beic cwad lle bu farw dyn ifanc.
Bu farw Ethan Powell, 20, ar safle'r digwyddiad ar yr A465 yn ardal Dowlais.
Cafwyd hyd i feic cwad wedi troi drosodd ar y safle, yn oriau mân bore 31 Mai eleni.
Mae'r dyn 41 oed o Ferthyr Tudful wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru, gyrru heb drwydded ac yswiriant, ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder a methu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad.
Bydd yn ymddangos yn y llys ym mis Ionawr.
Dywedodd yr heddlu bod pedwar dyn arall a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau heb unrhyw gamau pellach.
Pump wedi'u harestio wrth i deulu rhoi teyrnged i ddyn, 20, fu farw
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.