Cymru'n methu cymryd cyfleoedd mewn gêm gyfartal yn erbyn De Corea

Sophie InleFfynhonnell y llun, CBDC
  • Cyhoeddwyd

Cyfartal oedd hi rhwng Cymru a De Corea mewn gêm gyfeillgar yn Sbaen nos Wener.

Mae tîm Rhian Wilkinson yn chwarae dwy gêm yn Malaga yn dilyn rhediad o ganlyniadau siomedig i'r garfan.

Roedd 'na ddechrau da, wrth i'r capten Sophie Ingle roi Cymru ar y blaen yn gynnar yn yr hanner cyntaf.

Ar ôl i ergyd Lily Woodham gael ei wthio dros y bar, rhoddodd y cefnwr groesiad peryglus i mewn o'r gic gornel, ac Ingle oedd yna i benio i mewn i'r rhwyd.

Cymru oedd yn rheoli am gyfnodau hir o'r hanner cyntaf, ond doedden nhw ddim yn gallu cymryd mantais o gyfleoedd cynnar.

Cafodd Ingle gyfle da gyda'i phen eto, ond aeth yr ymgais i ddwylo golwr De Corea.

Roedd 'na gyfleoedd i Hannah Cain a Carrie Jones hefyd, ac fe allai'r Cymry fod wedi cyrraedd yr egwyl ymhellach ar y blaen.

Lily WoodhamFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Lily Woodham berfformiad calonogol i Gymru

Methodd Jones â manteisio ar gyfle gwych arall ar ddechrau'r ail hanner ar ôl i Angharad James ei chanfod gyda phas gelfydd, ond doedd Jones ddim yn gallu taro'r targed.

Ac yna yn hytrach na bod yn gyfforddus yn y gêm, daeth De Corea yn ôl i mewn iddi gan sgorio gyda chyfle prin wedi 68 munud.

Daeth croesiad o'r dde gan Jang Sel-gi, a doedd neb yn marcio Kim Min-ji oedd yn rhydd i benio a rhoi De Corea'n gyfartal.

Prin oedd y cyfleoedd clir yn dilyn hynny, a chyfartal oedd hi wedi 90 munud o chwarae.

Er bod gêm gyfartal yn erbyn tîm sy'n uwch yn y rhestr detholion yn ganlyniad positif, fe gafodd Cymru sawl cyfle i sicrhau'r fuddugoliaeth ond doedden nhw'n methu manteisio.

Dyma oedd carfan gyntaf Cymru ers i Jess Fishlock ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref.

Fe fydd Cymru yn chwarae yn erbyn Y Swistir mewn gem gyfeillgar arall yn Sbaen ddydd Mawrth am 11:00 (GMT).

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.