Cofio bachgen 5 oed a fu farw tu allan i'w gartref
- Cyhoeddwyd
Mae pentrefwyr yn gobeithio codi cofeb fel teyrnged i fachgen pump oed a fu farw mewn damwain y tu allan i'w gartref yng Nghwm Tawe.
Cafodd Harry Patterson anafiadau difrifol i'w ben wedi'r digwyddiad gyda char y teulu yn Alltwen ger Pontardawe ar Fedi 13.
Dywed y pentrefwyr y gallai'r gofeb fod yn rhywbeth ffisegol neu rywbeth fydd yn atgoffa pobl o bersonoliaeth fywiog a brwdfrydig Harry.
Mae'r pentrefwyr am greu coffadwriaeth a dathliad o fywyd y bachgen.
Mae elusen Apêl Harry wedi ei sefydlu hefyd.
Dywed y pentrefwyr eu bod yn gobeithio y bydd hyn yn cynnig "cefnogaeth emosiynol" i deulu Harry.
Ar wefan yr apêl dywed y trefnwyr eu bod yn gobeithio y bydd modd "sefydlu coffa parhaol, rhywbeth yn y pentref neu rywbeth i adlewyrchu personoliaeth Harry".
Cefnogaeth
"A hynny er mwyn cofio am y bachgen bach hoffus."
Ychwanegodd y bydd yr elusen hefyd yn cefnogi plant yn y gymuned leol a theuluoedd sydd wedi colli plant o dan amgylchiadau trasig.
Mae'r heddlu yn cynnig cefnogaeth yn ogystal i rieni Harry, Michelle a Christian, yn ogystal â brawd mawr Harry, Dylan.
Wedi'r digwyddiad dywedodd Mr Patterson bod ei fab yn "blentyn hapus iawn".
"Roedd yn unigolyn go iawn ym mhob ystyr o'r gair.
"Yn ddiweddar, fe gafodd waith cartre i'w wneud a gofynnwyd iddo a oedd yn poeni am unrhyw beth.
"Yr ateb oedd Na."