Cadarnhad y bydd pwerdy niwclear newydd yn cael ei adeiladu ym Môn

- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd pwerdy niwclear o fath newydd yn cael ei adeiladu ar Ynys Môn, gan ddod â hyd at 3,000 o swyddi a buddsoddiad gwerth biliynau o bunnau.
Safle Wylfa fydd lleoliad y tri adweithydd modiwlar bychan [SMR] cyntaf i'w hadeiladu yn y Deyrnas Unedig, er bod lle i hyd at wyth maes o law.
Y bwriad yw dechrau'r gwaith yn 2026 gyda'r nod o gynhyrchu trydan erbyn canol y 2030au.
Dywedodd y Prif Weinidog, Keir Starmer, fod Prydain wedi arwain y byd ar ynni niwclear yn y gorffennol, ond bod blynyddoedd o "ddiffyg gweithredu ac esgeulustod" wedi golygu bod ardaloedd fel Sir Fôn wedi'u gadael lawr.
"Heddiw, mae hynny'n newid," meddai.
Mae'r cyhoeddiad wedi'i groesawu hefyd gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wnaeth ddisgrifio'r newyddion fel "y foment y mae Ynys Môn a Chymru gyfan wedi bod yn aros amdano".

Mae'r cadarnhad y bydd pwerdy niwclear o fath newydd yn cael ei adeiladu ar Ynys Môn yn "newyddion gwych", medd Claire Hughes
Bydd y prosiect cyntaf o'i fath yn cael ei adeiladu gan gorff cyhoeddus Great British Energy-Nuclear, gyda buddsoddiad gwerth £2.5 biliwn o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Y bwriad yw cynhyrchu digon o drydan ar gyfer oddeutu tair miliwn o gartrefi.
Dywedodd Claire Hughes, is-weinidog yn Swyddfa Cymru ac Aelod Seneddol Llafur Bangor Aberconwy, ar Dros Frecwast fore Iau fod hwn yn newyddion da iawn.
"Da' ni wedi bod yn aros amser hir am hyn, ond mae'n newyddion gwych, just er mwyn cael gobaith i genhedlaeth newydd yn fan hyn," meddai.
Ychwanegodd Ms Hughes y byddai hyn yn rhoi gwybod i bobl ifanc "y bydd yna swyddi da yn fan hyn yn ein hardal. Mae o just yn newyddion gwych".
'Moment hanesyddol'
Dywedodd Simon Bowen, cadeirydd Great British Energy-Nuclear fod hyn "yn foment hanesyddol i'r DU, ac yn gam sylweddol tuag at gyflawni potensial Prydain wrth arwain y ffordd ar ynni niwclear".
Ar ôl arloesi ar safle'r Wylfa, y gobaith oedd medru datblygu cyfres o adweithyddion bach ar draws y wlad, ychwanegodd, "er mwyn cryfhau annibyniaeth ynni'r DU a dod â buddsoddiad hir dymor i'r economi leol".
Mae'r cwmni wedi'i orchymyn gan y Llywodraeth i ymchwilio i safleoedd ar gyfer codi atomfa fawr, draddodiadol arall hefyd - yn debyg i'r rhai sy'n cael eu hadeiladu yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf a Sizewell yn Suffolk - allai bweru chwe miliwn o gartrefi.
Bydd disgwyl iddyn nhw gyflwyno argymhellion erbyn hydref 2026, ac mae'r Ysgrifennydd Ynni Ed Miliband wedi gofyn iddyn nhw ystyried safleoedd ar draws y DU, gan gynnwys yr Alban, meddai swyddogion.

Y bwriad yw dechrau'r gwaith yn 2026 gyda'r nod o gynhyrchu trydan erbyn canol y 2030au
Dyw hi ddim yn glir os ydy hyn yn golygu na fydd Wylfa'n cael ei ystyried ar gyfer pwerdy mawr - ar ôl i'r llywodraeth Geidwadol flaenorol yn San Steffan ddynodi'r safle fel ffefryn ar gyfer datblygiad o'r fath yn 2024.
Mae'r penderfyniad i flaenoriaethu adweithyddion modiwlar bach ar gyfer Wylfa wedi'i feirniadu gan Lysgennad yr Unol Daleithiau i'r DU, Warren Stephens, wnaeth ddweud ei fod yn "hynod siomedig".
Roedd y llysgennad wedi bod yn galw ar weinidogion i ymrwymo i adeiladu atomfa fawr, gyda chwmni Westinghouse o America wedi cyflwyno cynlluniau, yn ôl adroddiadau.
Dywedodd Mr Stephens: "Os ydych chi am gael caib a rhaw yn y tir cyn gynted â phosib a chymryd cam mawr ymlaen o ran mynd i'r afael â phrisiau ac argaeledd ynni, yna mae yna lwybr gwahanol ar gael, ac ry'n ni'n disgwyl ymlaen i benderfyniadau cyn hir ar brosiectau niwclear mawr."

Daeth y gwaith o gynhyrchu ynni i ben yn Wylfa nôl yn 2015
Y syniad yn y pen draw yw y bydd adweithyddion modiwlar yn gyflymach i'w hadeiladu, ac yn rhatach - gyda'r cydrannau yn cael eu llunio mewn ffatrïoedd.
"Maen nhw wedyn yn cael eu cludo i'r safle yn barod i'w rhoi at ei gilydd, ychydig bach fel cadair o Ikea," meddai'r Athro Simon Middleburgh o Brifysgol Bangor.
Roedd yr SMRs sy'n cael eu cynnig yn "ffitio'n dda" gyda chapasiti'r grid cenedlaethol yn Wylfa, meddai - gan gynhyrchu oddeutu'r un faint o drydan a'r hen atomfa fawr sydd wrthi'n cael ei ddadgomisiynu.
Ond roedd 'na "rai rhwystrau eto i'w goresgyn", rhybuddiodd - o sicrhau caniatâd rheoleiddwyr, adeiladu'r ffatrïoedd sydd eu hangen a hyfforddi'r gweithlu.
Mae'r dewis i fynd am Wylfa yn dod ar draul safle Oldbury yn Sir Gaerloyw, oedd hefyd yn gobeithio ennill y ras i dderbyn yr adweithyddion bychain cyntaf sy'n cael eu dylunio gan gwmni Rolls Royce.
Cafodd yr hen atomfa niwclear yn Wylfa ei diffodd yn 2015, a rhoddwyd y gorau i gynlluniau blaenorol i adeiladu atomfa fawr newydd yno yn 2021.
Roedd y cwmni oedd yn gyfrifol am y cynllun hwnnw - Hitachi - wedi beio cynnydd mewn costau a methiant i ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU o ran cyllid.

Dywed Sasha Wynn Davies ei bod yn "teimlo yn bositif iawn unwaith eto"
Roedd Sasha Wynn Davies - sydd bellach yn cadeirio Fforwm Niwclear Cymru - yn uwch reolwr gyda phrosiect Wylfa newydd ar y pryd.
"Nai byth anghofio mynd i mewn i'r ysgol uwchradd yn Amlwch i siarad am hyn gyda disgyblion yn fan 'na.
"Roedd eu hwynebau nhw mor drist yn meddwl am beth oedd hyn yn ei olygu i'w dyfodol nhw, eu rhieni ac i'r ardal yn economaidd ac yn gymdeithasol."
Ond "dwi yn teimlo yn bositif iawn unwaith eto," meddai - gan ddweud y byddai'r newyddion yn cynnig gobaith i bobl ifanc Sir Fôn.
Mae yna gyd-destun gwleidyddol amlwg i'r cyhoeddiad hefyd, gyda Llafur ar lefel y DU yn awyddus i ddangos eu bod yn fodlon bwrw ati gyda phrosiectau isadeiledd mawr.
Yng Nghymru, mae'r prif weinidog Eluned Morgan wedi bod yn gwthio am benderfyniad hefyd, gyda'r newyddion yn dod chwe mis cyn etholiadau'r Senedd.
'Nid yw'n fach o gwbl'
Mae gwrthwynebwyr yn pwysleisio'r ffaith nad oes cytundeb eto ar storfa hirdymor ar gyfer gwastraff niwclear y DU, ac yn mynnu mai buddsoddiad mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy - gwynt, tonnau, llanw - sydd ei angen ar Ynys Môn.
Dywedodd Dylan Morgan o fudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa B) fod y cyfryngau yn "barod iawn i ailadrodd disgrifiad camarweiniol Rolls Royce o'u hadweithydd modiwlaidd fel un bach".
"Nid yw'n fach o gwbl. Mae'n 470MW, sef maint un o hen adweithyddion Magnox mawr Wylfa a mwy o faint na dau hen adweithydd Magnox Trawsfynydd.
"Gallai dau neu hyd yn oed tri adweithydd Rolls Royce gael eu codi ar un safle - datblygiad mawr a pheryglus iawn.
"Bydd yr holl beryglon eraill fel perygl damweiniau a gollyngiadau ymbelydrol, effaith ar yr iaith Gymraeg, yr angen am uwchraddio'r grid trydan ar draws Ynys Môn a gogledd Cymru ac effeithiau ar fyd natur a'r amgylchedd yr un mor amlwg yn achos adweithyddion Rolls Royce a'r rhai mawr traddodiadol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
