Merched yn chwarae 'llawer llai' o chwaraeon na bechgyn

Grŵp o ferched mewn crysau ysgol chwaraeon yn chwerthin ar y cae, gyda phêl rygbi wrth eu traed.Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Urdd mae cynhadledd #FelMerch eleni yn 'fwy amserol nag erioed'

  • Cyhoeddwyd

Yn ôl adroddiad diweddar mae bechgyn rhwng 11 a 18 oed yn treulio dros awr yn fwy bob wythnos yn cymryd rhan mewn chwaraeon na merched o'r un oedran.

Ddydd Iau fydd dros 250 o fenywod ifanc yn mynychu cynhadledd Chwaraeon #FelMerch Urdd Gobaith Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn ôl prif weithredwr y mudiad mae'r gynhadledd yn "fwy amserol nag erioed".

Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed merched Cymru wedi cyfaddef bod cyrraedd Ewro 2025 yn "gam enfawr yn y cyfeiriad cywir" ond bod "dal llawer i'w wneud" i gael mwy o ferched i chwarae'r gêm.

'Anghydraddoldeb' o fewn chwaraeon

Mae'r adroddiad gan Public First a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi 2025 yn dangos fod merched yn y Deyrnas Unedig yn dal i chwarae llawer llai o chwaraeon na bechgyn.

Mae'r anghydraddoldeb, medd yr adroddiad, yn effeithio ar eu lles corfforol a meddyliol, eu hyder, a'u potensial i fod yn arweinwyr yn y dyfodol.

Mia Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mia Lloyd ddiagnosis o ganser pan yn 10 oed ac o ganlyniad mae wedi colli ei choes

Yn ôl Mia Lloyd, athletwraig para Tîm Cymru 18 oed o Aberteifi, mae "cymaint yn bosib" drwy chwaraeon.

"Yn 10 oed ges i ddiagnosis o ganser, ac o ganlyniad collais fy nghoes. Wrth edrych yn ôl, dyma oedd y canlyniad gorau i fi achos roeddwn yn awyddus i ddychwelyd i chwaraeon mor fuan â phosib ar ôl y driniaeth.

"Dwi'n edrych ymlaen at rannu fy stori, i ddangos i ferched ifanc Cymru fod yna gymaint yn bosib drwy chwaraeon a pha mor bwysig yw hi i ddal ati ac i gymryd pob cyfle mewn bywyd."

Hannah Cain (chwith) sgoriodd wedi gwaith da Jess Fishlock yng ngêm olaf Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Cain (chwith) sgoriodd wedi gwaith da Jess Fishlock yng ngêm olaf Euro 2025

Mae prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol, Rhian Wilkinson, yn "falch iawn" i fod yn rhan o'r gynhadledd.

"Roedd cyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint mawr y menywod am y tro cyntaf yn gam enfawr yn y cyfeiriad cywir ar gyfer pêl-droed merched yng Nghymru ond mae dal llawer i'w wneud," meddai.

"Gyda chymorth sefydliadau fel yr Urdd, rwy'n gobeithio y gallwn barhau i ysbrydoli ac annog merched a menywod ledled y wlad i chwarae chwaraeon am flynyddoedd i ddod."

Cynhadledd eleni yn 'fwy amserol nag erioed'

Hon yw trydedd Cynhadledd #FelMerch yr Urdd - me wedi ei noddi gan Lywodraeth Cymru trwy gronfa Euro 2025.

Yn ôl Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, mae'r gynhadledd eleni yn "fwy amserol a phwerus nag erioed".

"Er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol o fewn chwaraeon merched dros y blynyddoedd diwethaf, mae tipyn o ffordd eto i fynd cyn fod chwarae teg i bawb ym myd chwaraeon.

"Rydyn ni wrth ein bodd bod mwy o ferched ifanc nag erioed o bob cwr o Gymru yn ymuno â ni eleni i gymryd rhan mewn rhaglen ysbrydoledig o siaradwyr a gweithdai wedi'u cynllunio i rymuso, codi calon a chynnau uchelgais," meddai.

6 merch yn eistedd fel rhan o banel cynhadledd Fel Merch yn 2021. Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gynhadledd gyntaf ei chynnal yng Ngwersyll yr Urdd, Caerdydd yn 2021

Mae'r siaradwyr gwadd eleni yn cynnwys Rhian Wilkinson - Prif Hyfforddwraig Tîm Pêl-droed Cymru, Rosie Eccles - y bocsiwr amatur o Gasnewydd a enillodd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2022, a'r nofwraig Ela Letton-Jones o'r Felinheli sydd newydd ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Nofio Para'r Byd yn Singapore.

Bydd hefyd gweithdai ymarferol ar bynciau amrywiol gan gynnwys anafiadau chwaraeon, bocsio a calisthenics.