Systemau draenio ar eu newydd wedd

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn archwilio draenFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dŵr Cymru a chwmni dŵr Hafren Trent yn adolygu'r rhwydwaith carthffosydd presennol

O heddiw ymlaen y cwmnïau dŵr fydd yn gofalu am lawer o'r systemau draenio a fu'n gyfrifoldeb i berchnogion unigol hyd yma.

Bydd y newidiadau hyn, a gyflwynwyd yng Nghymru gan y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, ym mis Gorffennaf, yn golygu na fydd deiliaid tai'n gorfod talu biliau annisgwyl am drwsio carthffosydd sy'n torri, yn blocio neu'n cael eu difrodi.

Hefyd, ni fydd unrhyw anawsterau'n codi pan fo problemau carthffosydd yn effeithio ar fwy nag un eiddo.

Mae Dŵr Cymru a chwmni dŵr Hafren Trent wrthi ar hyn o bryd yn adolygu'r rhwydwaith carthffosydd presennol ac maent wedi bod yn cydweithio ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i gasglu gwybodaeth am eu hasedau newydd hefyd.

Biliau carthffosiaeth

Maent wedi bod yn cynllunio ar gyfer y cynnydd tebygol yn y galwadau gan gwsmeriaid ac yn trefnu digon o adnoddau ymateb brys a chynnal a chadw er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn.

Dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd: "Ychydig iawn o berchnogion carthffosydd preifat a draeniau ochrol - deiliaid cartrefi, fel arfer - oedd yn gwybod yn iawn beth oedd eu cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau cysylltiedig, ac nid oes amheuaeth fod carthffosydd preifat yn gostus iawn i'w trwsio a'u cynnal a chadw.

"Wrth drosglwyddo'r cyfrifoldeb am y carthffosydd preifat a'r draeniau ochrol i'r cwmnïau dŵr, rydym yn sicrhau tegwch i'r defnyddwyr ac yn rhoi'r un lefel o wasanaeth i'r holl gartrefi sydd wedi'u cysylltu â'r system garthffosydd cyhoeddus."

Amcangyfrifir y bydd hyn yn costio rhwng chwe cheiniog a 27 ceiniog yr wythnos i dalwyr biliau carthffosiaeth dros y tair blynedd nesaf.

Pennir y costau terfynol yn unol â'r sefyllfa ar lawr gwlad a byddant yn amrywio rhwng y cwmnïau dŵr.

Ni fydd y prisiau'n codi hyd nes y bydd y cwmnïau wneud cais i Ofwat am gael cynyddu'r tariff.

'Cyfnod priodol'

Dywedodd Diane McCrea, Cadeirydd Pwyllgor Cymru y Cyngor Defnyddwyr Dŵr: "Mae'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn cefnogi'r cam hwn i drosglwyddo perchnogaeth oddi wrth gwsmeriaid â charthffosydd preifat.

"Bydd hyn yn dod â manteision i'n cwsmeriaid yn y dyfodol drwy gael gwared ar y biliau annisgwyl a drudfawr am drwsio carthffosydd preifat.

"Nid yw'r diwydiant yn gwybod yn iawn faint fydd y broses hon yn costio, ond mae'n sicr y bydd pris i'w dalu.

"Byddwn yn cydweithio'n agos â'r corff rheoleiddio dŵr, Ofwat, ac â'r cwmnïau carthffosiaeth a dŵr i sicrhau bod y costau'n cael eu hymestyn dros gyfnod priodol gan effeithiol cyn lleied â phosibl ar filiau dŵr pobl."

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr Cymru, Nigel Annett: "Rydym yn croesawu'r ffaith bod y carthffosydd preifat yn cael eu trosglwyddo i berchnogaeth y cwmnïau dŵr.

"Mae'n gam mawr ymlaen o ran gwasanaethu'r cwsmer, a bydd yn sicrhau gwell rheolaeth ar y rhwydwaith carthffosydd.

"Wrth drosglwyddo 17000 km o garthffosydd a draeniau preifat, rydym yn dyblu maint y rhwydwaith a reolir gan Dŵr Cymru.

"Mae hwn yn gyfrifoldeb ychwanegol anferthol. Oherwydd maint y trosglwyddiad, ni fydd modd inni ddatrys pob problem ar unwaith. Mae'n mynd i gymryd amser a bydd rhaid inni flaenoriaethu'r gwaith er mwyn delio â'r gwaith atgyweirio pwysicaf yn gyntaf. Ond fe wnawn ein gorau i fynd i'r afael â'r holl broblemau cyn gynted ag y bo modd.

"Cwmni dielw ydym ni, ac ein hunig amcan yw gwneud ein gorau i'n cwsmeriaid ar amgylchedd. Yn y tymor hir, bydd trosglwyddo'r carthffosydd preifat yn dod â manteision i'n cwsmeriaid ac i'r ardal a wasanaethwn."

Dywedodd Allan Warren, rheolwr cyffredinol cwmni Hafren Trent: "Mae hwn yn gam positif i bawb. Yn aml iawn, ni fydd cwsmeriaid yn sylweddoli pa ran o'r bibell wastraff y maent yn gyfrifol amdano hyd nes y byddant yn wynebu bil costus.

"Mewn rhai achosion, roedd problemau mewn pibelli a rennir yn cael eu gadael heb eu trwsio am fod cymdogion yn dadlau ynghylch y costau.

" Bydd pethau'n llawer cliriach 'nawr, a bydd pawb yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am drwsio draeniau a charthffosydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol