Profiad 'chwerwfelys' Mari Grug yn ennill gwobr am bodlediad canser

Mari Grug a'r cynhyrchydd Sioned Snelson yn y seremoni yn yr O2 yn Llundain nos Iau
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd Mari Grug wedi dweud mai profiad "chwerwfelys" oedd ennill yng ngwobrau podlediadau Prydain nos Iau.
Fe ddaeth podlediad Mari Grug, 1 mewn 2, yn fuddugol yng nghategori'r podlediadau Cymraeg.
Mae'r podlediad yn trafod byw â chanser, ac yn cynnwys sgyrsiau am ddiagnosis a thriniaeth gyda chyfranwyr amrywiol.
Dywedodd Mari fod y wobr i ddau o gyfranwyr y podlediad "ni 'di colli, sef Jill Lewis a Wil Beynon, mae'r wobr neithiwr i nhw".
'Siwrne pawb yn wahanol'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Mari mai ei bwriad o greu'r podlediad yn y lle cyntaf oedd cael lle i drafod canser a'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu yn Gymraeg.
Cafodd Mari ddiagnosis o ganser y fron dros ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, ac mae wedi bod yn agored wrth rannu ei siwrne.
Dywedodd: "Penderfynon ni greu'r podlediad achos doedd dim un yn y Gymraeg, achos pan ges i'r diagnosis dwy flynedd a hanner yn ôl fues i'n chwilio am un.
"Yn y dyddie cynnar 'na yn trio deall a dygymod â'r newyddion ofnadwy."
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2024
Dywedodd mai profiad "chwerwfelys" oedd ennill y wobr: "Dwi dal 'di deffro yn Llundain, s'dim byd 'di newid i fi yn anffodus."
Esboniodd Mari sut iddi benderfynu ar deitl y podlediad, 1 mewn 2: "Ro'n ni eisiau rhywbeth oedd yn cydio, yn anffodus dyna'r ystadegyn sef bod un mewn dau o' ni yn cael canser, sy'n frawychus."
Mae Mari wedi cael cwmni pobl sy'n byw gyda chanser, wedi dioddef o ganser ac arbenigwyr mewn meysydd sy'n ymwneud â chanser yn ystod y gyfres.
Dywedodd: "Ni wedi bod mor lwcus, yn anffodus s'dim prinder siaradwyr wedi bod.
"Ma' siwrne pawb yn wahanol gyda'r clefyd ofnadwy yma."
Dywedodd fod cyfrwng y podlediad yn rhoi'r "amser i sgwrsio a thrafod" gyda'r ystod o westeion amrywiol.
Ychwanegodd iddi gael "sgwrs bersonol iawn 'da Mam" yn ystod un bennod, lle wnaeth ei mam "rhannu pethau doedd hi heb ddweud wrtha i o'r blaen".
Bydd rhaglen ddogfen yn dilyn siwrne Mari yn cael ei ddarlledu yn hwyrach yn y mis ac mae'n "gobeithio y bydd yn codi ymwybyddiaeth" o fywyd â chanser.