Carcharu taid a nain a lofruddiodd eu hŵyr 2 oed

Cafwyd Michael a Kerry Ives yn euog o lofruddiaeth ym mis Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl beri gofid.
Mae taid a nain wedi eu carcharu am oes am lofruddio eu hŵyr dwy oed yn Sir y Fflint.
Bu farw Ethan Ives-Griffiths ar ôl cael anafiadau difrifol yng nghartref y teulu yn Garden City, Glannau Dyfrdwy ym mis Awst 2021.
Cafwyd Michael Ives, 48, a Kerry Ives, 46, yn euog o lofruddiaeth ac o greulondeb i blentyn.
Bydd Michael Ives yn treulio o leiaf 23 o flynyddoedd dan glo, a Kerry Ives lleiafswm o 17 o flynyddoedd.
Fe gafodd y ddau hefyd ddedfrydau o naw a chwe blynedd am greulondeb i blentyn, ac fe fyddan nhw'n cyd-redeg.
Cafwyd mam Ethan, Shannon Ives, 28 oed o'r Wyddgrug, yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i blentyn.
Cafodd ddedfryd 12 mlynedd gan y barnwr, gydag o leiaf wyth mlynedd dan glo, yn ogystal â dedfryd pum mlynedd am greulondeb, i gyd-redeg.

Dywedodd y barnwr fod Shannon Ives yn gwybod nad oedd ei mab yn ddiogel gyda'i rhieni
Wrth eu dedfrydu dywedodd y barnwr, Mr Ustus Griffiths, fod Ethan wedi ei drin fel "gwrthrych yn hytrach na bod dynol".
Roedd y cartref, clywodd y gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug fore Gwener, "yn cael ei reoli drwy drais ac ofn."
Yn ystod yr ychydig fisoedd i Ethan fyw yng nghartref ei daid a'i nain, roedd ei gyflwr corfforol wedi dirywio'n arw, wrth gael ei ddisgrifio "fel sgerbwd".
Roedd misoedd olaf Ethan, clywodd y llys, yn rai erchyll wrth i'r bachgen bach ddioddef o gamdriniaeth corfforol a meddyliol.
Pan ddisgynnodd yn anymwybodol i'r llawr ar 14 Awst 2021 ar ôl cael anaf difrifol i'w ben yn ystafell fyw ei nain a'i daid, cludwyd Ethan i'r ysbyty ond bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.
Roedd wedi ei ysgwyd a gyda 40 o anafiadau gwahanol ar ei gorff, yn beryglus o ddadhydradedig ac yn dioddef o ddiffyg maeth.
Roedd ei gyflwr mor ddrwg ei fod wedi achosi i nyrsys yn yr ysbyty grio.
Roedd tystiolaeth camera cylch cyfyng yn dangos Michael Ives yn annog plentyn arall i daro Ethan
Roedd Michael a Kerry Ives wedi gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol am farwolaeth Ethan gan honni mai eu merch, Shannon, oedd ar fai am ei anafiadau.
Dywedodd Shannon fod arni eu hofn.
Ond yn ôl yr erlyniad, roedd Shannon Ives yn ymwybodol ei fod mewn perygl, a'i bod hi "wedi gwneud dim i'w amddiffyn rhag y risg honno".
Tra'n derbyn ei bod yn wynebu carchar, clywodd y llys ddydd Gwener fod ganddi broblemau gyda deallusrwydd, gorbryder, iechyd meddwl a bod ei gallu academaidd yn isel.
Ond wrth eu dedfrydu, dywedodd y barnwr nad oedd wedi gweld unrhyw edifeirwch a'i fod yn sicr bod bwriad gan Michael a Kerry Ives i ladd y bachgen bach.
Tra mai Michael, meddai, oedd yn gyfrifol am y mwyafrif o'r trais yn erbyn Ethan, ychwanegodd fod Kerry a Shannon wedi'u gweld yn taro'r plentyn.
"Roedd Shannon yn gwybod bod ei rhieni gyda'r gallu i gam-drin plant, oherwydd dyna oedd ei phrofiad hi wrth dyfu i fyny.
"Roedd Shannon yn gwybod nad oedd Ethan yn ddiogel gyda'i rhieni."

Kerry (chwith) a Michael Ives yn cyrraedd y llys ddydd Gwener
Yn dilyn y dedfrydu, bydd Adolygiad Ymarfer Plant nawr yn cael ei gynnal er mwyn i'r awdurdodau ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd i Ethan.
Dywedodd Nicola Rees o Wasanaeth Erlyn y Goron, mai dyma un o'r achosion "mwyaf dychrynllyd iddi erioed ddelio ag o fel erlynydd".
"Roedd y dystiolaeth teledu cylch cyfyng, oedd yn dangos Ethan yn cael ei dargedu a'i gam-drin, yn dorcalonnus," meddai.
"Anaml y gwelir gweithredoedd mor eithafol o greulondeb corfforol ac emosiynol.
"Defnyddiodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth teledu cylch cyfyng o gartref yr Ives i ddangos i'r rheithgor sut roedd Ethan yn cael ei drin. Arweiniodd y dystiolaeth at yr euogfarnau hyn.
"Dylai'r diffynyddion, oedd yn nain, yn daid ac yn rhiant i'r plentyn, fod wedi gofalu ac amddiffyn Ethan, ond ni wnaethant hynny.
"Rydym yn cydymdeimlo â thad a theulu Ethan sydd wedi dioddef colled dorcalonnus."

Diolchodd y Ditectif Uwch-arolygydd Chris Bell (dde) i dad Ethan (chwith) a'i deulu am eu dewrder
Wrth roi datganiad y tu allan i Lys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Chris Bell o Heddlu Gogledd Cymru:
"Mae dedfrydau heddiw yn adlewyrchu'r ymddygiad mileinig a ddioddefodd Ethan cyn ei lofruddiaeth greulon ym mis Awst 2021.
"Cafodd Ethan, bachgen ifanc hardd gyda'i fywyd cyfan o'i flaen, ei ddwyn gan ei nain a'i daid, tra wnaeth ei fam ddim i'w hatal.
"Nhw yw'r union bobl a ddylai fod wedi amddiffyn, gofalu a charu Ethan, mae'n amhosibl dychmygu'r arswyd y byddai plentyn dwy oed wedi'i deimlo wrth iddo orfod dioddef yr ymddygiad drygionus a'r gosb a dderbyniodd."
Aeth ymlaen i roi teyrnged i deulu Ethan hefyd, a diolchodd iddynt am eu cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad:
"Rwy'n canmol cryfder a dewrder aruthrol tad Ethan a'i deulu ac rwy'n diolch iddynt am gefnogi fy nhîm ymchwilio drwy gydol y pedair blynedd diwethaf.
"Hoffwn hefyd gydnabod yr urddas a ddangoswyd ganddynt drwy gydol yr hyn a oedd yn ymchwiliad cymhleth, brawychus a hirfaith.
"Mae fy nghydymdeimlad a'm meddyliau'n parhau gyda nhw ar yr adeg hon."
Llywodraeth Cymru i adolygu prosesau diogelu
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi eu bod am gynnal adolygiad o'r "gweithdrefnau atebolrwydd a llywodraethiant cyfredol ar gyfer diogelu plant ac oedolion".
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol mewn datganiad: "Mae diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod, a mathau eraill o niwed yn faes ymarfer sy'n datblygu'n barhaus.
"Er mwyn sicrhau bod ein systemau yn parhau i fod yn effeithiol, yn ymatebol, ac yn canolbwyntio ar gyflawni'r canlyniadau gorau i bobl Cymru, mae'n hanfodol eu bod yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ac yn parhau i fod yn addas i'r diben.
"Bydd yr adolygiad hwn yn ymdrin â'r canlynol; rolau a chyfrifoldebau'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a'r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, y rhyngwyneb rhwng y cyrff hyn a'r Arolygiaethau, effeithiolrwydd cyffredinol y trefniadau hyn o ran amddiffyn pobl rhag niwed, ac argymhellion i gryfhau ymhellach llywodraethiant gweithdrefnau diogelu yng Nghymru."
Ychwanegodd y byddai'r adroddiad terfynol yn cael ei gwblhau erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf