Ceidwadwyr: 'Angen rhewi treth y cyngor'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn esiampl Llywodraeth San Steffan a rhewi treth y cyngor.
Ar hyn o bryd mae'r blaid yn cynnal eu cynhadledd ym Manceinion.
Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru am eu hymateb.
Eisoes mae gweinidogion Cymru, fydd yn cyhoeddi eu cyllideb ddrafft ddydd Mawrth, wedi dweud bod biliau treth cyngor yng Nghymru'n is nag yn Lloegr.
Mae'r Canghellor, George Osborne, wedi dweud wrth y gynhadledd y byddai Llywodraeth San Steffan yn rhoi arian i gynghorau rewi trethi pe bai cyfyngiad o 2.5% ar gynnydd gwario.
Arbedion effeithlonrwydd fydd yn talu am y cynnig gwerth £805m.
'Helpu'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol, Janet Finch-Saunders: "Rydym yn dibynnu ar weinidogion Cymru i gadarnhau sut y byddan nhw'n gwario'r arian ychwanegol o San Steffan er mwyn helpu pensiynwyr a theuluoedd i ymdopi â chost byw.
"Ar adeg pan fo'r esgid yn gwasgu, mae angen i weinidogion Cymru wneud mwy i gefnogi trethdalwyr sydd wedi gweld eu biliau yn mwy na dyblu yn ystod 12 mlynedd o lywodraeth Lafur."
Ddydd Sul roedd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ac arweinydd y Ceidwadwr yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, yn annerch cynadleddwyr.
24 o gyffuriau
Dywedodd Mr Davies fod Llywodraeth Cymru wedi "rhedeg allan o stêm" a'i fod yn brin o syniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio grymoedd deddfu newydd y Cynulliad.
Yn ôl arweinydd y blaid yng Nghymru, roedd yr arian oedd yn cael ei wario ar bolisi presgripsiwn di-dâl yn golygu nad oedd yna ddigon o arian ar gael ar gyfer rhai cyffuriau canser.
Dywedodd fod yna 24 o gyffuriau ar gael yn Lloegr ond nid yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2011