Llwyddiant eto i Athro'r Flwyddyn o Fangor

  • Cyhoeddwyd
Llew Davies o Ysgol Cae Top, BangorFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd cafodd Llew Davies ei enwi'n Athro'r Flwyddyn mewn gwobrau eraill yn Llundain

Mae athro sy'n dysgu yn Ysgol Gynradd Cae Top ym Mangor wedi ennill prif wobr yng ngwobrau Pride of Britain.

Cafodd Llew Davies, 29 oed, ei enwi'n Athro'r Flwyddyn am ei waith ac arweiniodd at yr ysgol yn cael sgôr gwell nag erioed mewn arolygiad.

Mae Mr Davies, sydd wedi bod yn dysgu ers saith mlynedd, yn cael ei ddisgrifio fel athro y bydd disgyblion yn ei "gofio am byth".

Yn ogystal â hybu safonau ar draws yr ysgol, mae'r athro hefyd wedi helpu ei ddisgyblion i ennill cystadleuaeth wyddonol trwy Brydain.

Mae Ysgol Cae Top wedi dod i'r brig sawl tro yng Nghystadleuaeth F1 i ysgolion.

"Da chi'n gweld y peth yn digwydd", meddai Mr Davies, "yr emosiwn ar wyneb y plant, maen nhw 'di cynhyrfu'n lan yn gweld y car 'ma yn rasio o gwmpas y trac ar gyflymder uchel.

"Mae'n dod â'r dysgu yn fyw iddyn nhw."

'Plentyn mawr'

Y llynedd roedd Mr Davies, sydd hefyd yn ddirprwy bennaeth yr ysgol, wedi cael ei enwi'n Athro'r Flwyddyn mewn gwobrau eraill i athrawon yn Llundain.

"Plentyn mawr ydw i yn y bôn," meddai.

"Rwyf o hyd yn edrych 'mlaen i fynd i'r gwaith am fy mod i'n gwybod y bydd gen i ddigon o straeon da i'w dweud pan a' i adre'.

"Mae'n rhoi hwb i rywun.

"Pan fo'r plant yn dysgu rhywbeth am y tro cynta', a phopeth yn disgyn i'w le, mae'n wefr i weld hynny.

"A'r hiwmor - mae'r ffordd mae plant yn gweld pethau'n gallu bod yn eitha' difyr."

Dywedodd Mr Davies ei fod yn gwerthfawrogi'r holl gefnogaeth mae o wedi'i gael gan yr ysgol a'r gymuned yn ehangach, gyda phawb yn dod at ei gilydd.

Diolchodd hefyd i staff yr ysgol, oedd yn gweithio'n "arbennig o effeithiol".

Ychwanegodd ei fod yn ei gweld yn hollbwysig cael perthynas dda gyda'r plant.

"Mae pentwr o athrawon eraill yng Ngwynedd yn gwneud yr un fath - dim ond fy mod i wedi cael fy newis i ddangos hynny," meddai.

"Mae'r plant yn ymateb yn well pan eich bod yn trio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, rhywbeth sydd â 'chydig o hwyl," wrth egluro ei arddull dysgu.

"Dwi wastad yn trio meddwl be' fyddwn i wedi'i licio pan o'n i yn yr ysgol."

Wedi ei lwyddiant bydd Mr Davies yn mynd i rif 10 Downing Street ddydd Mawrth, i gwrdd â'r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg.

Ymosodiad tarw

Roedd 'na wobr hefyd i ddisgybl o'r Fenni.

Roedd Tom Phillips, 11 oed, wedi achub ei dad, Andrew, ar ôl i darw ymosod arno.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tom Phillips wobr am ei ddewrder yn achub ei dad wedi ymosodiad gan darw

Fe neidiodd y llanc y tu ôl i olwyn y tractor gan yrru'r tarw i ffwrdd, cyn gyrru i'r ffermdy i gael help ei fam, Amanda.

Wedi hynny aeth i dŷ'r cymdogion i alw am gymorth pellach.

Wedi'r digwyddiad, dywedodd Tom: "Ro'n i'n poeni ychydig am yrru'r tractor ond fe wnes i beth oedd yn rhaid i mi'i wneud.

"Rwy'n falch bod fy nhad yn gwella."

Bydd gwobrau Pride of Britain yn cael eu dangos ar y teledu nos Fercher.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol