Cyfarfod yn trafod adeilad hanesyddol
- Cyhoeddwyd
Byddai gwerthu adeilad hanesyddol sy'n eiddo i gyngor yn "golled i dreftadaeth ddiwydiannol" tref yn y gorllewin, medd cynghorydd.
Mae adeilad y Pelican yng Nghydweli, ger Llanelli, yn dyddio'n ôl i'r 1760au ac yno roedd swyddfeydd y cyngor tref tan 2008.
Erbyn hyn, mae'r swyddfeydd wedi symud i ran arall o'r dre ac mae'r cyngor yn trafod gwerthu'r adeilad yn lle wynebu cost atgyweirio o £700,000.
Daeth dros 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yng nghlwb rygbi'r dref ar Hydref 10 i drafod dyfodol yr adeilad.
Yn ôl y Cynghorydd Byron Huws, byddai gwerthu'r adeilad yn golygu colli cyfle euraidd i ddatblygu canolfan treftadaeth.
"Mae gan y dref dreftadaeth ddiwydiannol yn ogystal ag un o'r Oesoedd Canol.
"Dyma'r fan lle oedd y gamlas gynta yng Nghymru - a'r ail waith tun hynna ym Mhrydain."
Dywedodd fod angen adfer canol y dref, gan gynnwys hen gapeli ac adeiladau eraill fel y Pelican.
"Byddai modd sefydlu'r lle fel canolfan treftadaeth nid yn annhebyg i Flaenafon."
Llyfrgell a busnesau
Dywedodd fod y Pelican yn wreiddiol yn dafarn ar gyfer teithwyr y Goets Fawr.
Cafodd yr adeilad ei drosglwyddo i ofal y llywodraeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yna i ofal hen gyngor Llanelli.
Ar hyn o bryd mae llyfrgell y dre a dau fusnes bach yn yr adeila
Pedair blynedd yn ôl pris y Pelican oedd £210,000.
Dywedodd Clerc Cyngor Cydweli, Geraint Thomas, fod y cyngor wedi penderfynu pedair blynedd yn ôl symud eu swyddfeydd i Ganolfan Gwenllïan.
Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn cwrdd mewn cabanau ar y safle.
Bydd y swyddfeydd newydd yn rhan o ail gymal datblygiad Canolfan Gwenllïan fydd yn costio £900,000.
Mae'r cyngor wedi clustnodi £100,000 ar gyfer y cynllun ac mae cais wedi ei wneud i'r loteri ar gyfer gweddill yr arian.
Incwm blynyddol y cyngor oddi wrth drethi yw £100,000.
Dywedodd Mr Thomas nad oedd adeilad y Pelican ar y farchnad ond y byddai rhaid i gynghorwyr benderfynu ei ddyfodol rywbryd ar ôl y cyfarfod cyhoeddus.
Mewn pleidlais anffurfiol ar ddiwedd y cyfarfod cyhoeddus pleidlesiodd mwyafrif o blaid cael cartref newydd i Gyngor y Dref yng Nghanolfan Gwenllian.