Defnyddio cyllid o'r system gynllunio i hybu'r Gymraeg yn Abergele

Datblygiad newydd yn Abergele
  • Cyhoeddwyd

Mae Abergele wedi gweld cynnydd sylweddol yn ei phoblogaeth dros y degawdau diwethaf, ond ar yr un pryd mae canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg wedi gostwng.

Mae'n sefyllfa debyg mewn ardaloedd eraill ar draws Cymru - ond mae cyllid o'r system gynllunio bellach yn cael ei ddefnyddio i helpu hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardal.

Y gred yw mai dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghymru.

Dywedodd Menter Iaith Conwy fod defnyddio arian Amod 106 yn y ffordd yma yn "gam pwysig ar gyfer sicrhau dyfodol y Gymraeg yn y dref".

Mae cytundeb Amod 106 yn gontract preifat cyfreithiol rhwymol rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol sy'n gweithredu ochr yn ochr â chaniatâd cynllunio statudol.

Mae yn gallu cael ei ddefnyddio i sicrhau cyfraniad gan ddatblygwr i wneud yn iawn am unrhyw golled neu ddifrod sy'n cael ei achosi gan ddatblygiad, neu liniaru effaith ehangach datblygiad.

Yr iaith 'mewn sefyllfa fregus' yn yr ardal

Yn 1961 roedd ychydig dros 4,000 o bobl yn byw yn Abergele - bryd hynny roedd 40% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.

Erbyn 1971 roedd y boblogaeth wedi chwyddo i bron i 7,000 ac roedd canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i ychydig dros chwarter y boblogaeth.

Mae'r duedd yna wedi parhau hyd heddiw a bellach mae canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 19% a'r iaith mewn sefyllfa sydd yn cael ei ddisgrifio fel "bregus".

Yn ymarferol, mae hynny'n golygu mai ond un o bob pump o bobl rydych yn cyfarfod yn Abergele ar hap fydd yn gallu siarad Cymraeg.

Meirion Llywelyn Davies, Prif weithredwr Menter Iaith Conwy
Disgrifiad o’r llun,

"Mae yna batrwm pendant o ran datblygiadau tai a chanran y siaradwyr Cymraeg yn gostwng," meddai Meirion Llywelyn Davies

Dywedodd Meirion Llywelyn Davies, prif weithredwr Menter Iaith Conwy, fod yr iaith wedi dirywio fel iaith gymuned yn y dref a bod llai o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r iaith.

"Mae yna batrwm pendant o ran datblygiadau tai a chanran y siaradwyr Cymraeg yn gostwng," meddai.

"Mae hyn yn profi pwysigrwydd fod y Gymraeg yn cael ei hystyried law yn llaw a pholisi cynllunio."

Pan gafodd cynllun datblygu lleol ei greu roedd y fenter yn dadlau fod yna ormod o dai yn cael eu codi o ran lles y Gymraeg, a bod hynny yn cael effaith negyddol.

Ond trwy gyfrwng Amod 106, dywed Mr Davies bod y fenter "wedi gallu cael arian, a dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghymru, i liniaru effaith y datblygiadau ar y Gymraeg".

"Ry' ni nawr wedi cael arian trwy'r cyngor tref i gyflogi swyddog penodol yn Abergele i neud yn siŵr fod y siaradwyr Cymraeg sydd yma yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol."

Delyth Phillips Cadeirydd Criw Bro Gele
Disgrifiad o’r llun,

"Mae yna dipyn o bobl yn siarad Cymraeg yma ond maen nhw ar wasgar, does unlle i ni ddod at ein gilydd i gymdeithasu," yn ôl Delyth Phillips

Er bod cynnydd mewn addysg Gymraeg yn lleol, bwriad Menter Iaith Conwy yw sicrhau nawr fod cyfleoedd i bobl, ac i blant yn arbennig, i ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r ysgol.

Mae gan y fenter bwyllgor ardal o wirfoddolwyr yn y dref - sef Criw Bro Gele.

Dywed Delyth Phillips y cadeirydd: "Mae yna dipyn o bobl yn siarad Cymraeg yma ond maen nhw ar wasgar, does unlle i ni ddod at ein gilydd i gymdeithasu.

"Ond nawr ry' ni'n ceisio trefnu digwyddiadau yn nhafarn y Tarw yn y dref, fel cwisiau a gigs i godi hyder pobl i ddefnyddio a gwella eu Cymraeg."

Craig Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnal gigs Cymraeg yn y dafarn wedi bod yn llwyddiant, meddai Craig Hughes

Mae landlord y dafarn, Craig Hughes yn dweud bod cerddoriaeth fyw Cymraeg wedi bod yn llwyddiant enfawr a bod digwyddiadau o'r fath yn tynnu pobl a Chymry Cymraeg at ei gilydd.

"'Da' chi ddim yn clywed cymaint o'r iaith rownd fan hyn bellach ac ma' hynny wir yn siom," meddai.

'Cofleidio pob cyfle i gefnogi'r iaith'

Dywed y cynghorydd Alan Hunter, o gyngor tref Abergele bod angen "cofleidio pob cyfle i gefnogi'r iaith Gymraeg a diwylliant"

"Ry' ni'n gallu elwa o gynllun, fel un mewn chwech, lle mae datblygwyr tai yn talu arian i mewn i gronfa ar gyfer gwahanol agweddau o fywyd y gymuned gan gynnwys y Gymraeg a diwylliant Cymreig."

Er mwyn atal dirywiad pellach mae'r fenter iaith leol yn dweud fod angen "rhwydweithiau pendant a sicrhau bod modd i siaradwyr Cymraeg defnyddio ei hiaith mewn gwahanol feysydd".

Manon Prysor
Disgrifiad o’r llun,

"Pan fo' Cymry sy'n siarad Cymraeg ar wasgar maen nhw'n colli hyder i drio'r iaith," meddai Manon Prysor

Mae Academi berfformio i ieuenctid newydd yn y dref yn rhan o ymdrech i gynnig ystod eang o weithgarwch cyson yn Gymraeg i wneud yr iaith yn berthnasol i fywydau pobl o bob oed.

Mae Manon Prysor yn arwain cynllun theatrig yn yr academi ar y funud.

"Ma' angen rhywle iddyn nhw ddod at ei gilydd," meddai, "pan fo' Cymry sy'n siarad Cymraeg ar wasgar maen nhw'n colli hyder i drio'r iaith a dy' nhw ddim yn gwybod pwy sy yn siarad yr iaith."

Yn ôl arbenigwyr, mae angen i oddeutu 70% o'r boblogaeth allu siarad iaith fel ei bod yn cynnal ei hun.

Mae unrhyw ganran o dan hynny yn arwydd fod yr iaith yn dechrau dirywio oherwydd bod llai o gyfleoedd i'w defnyddio.

Mewn amser, maen nhw'n awgrymu fod siaradwyr iaith gyntaf yn dod yn llai rhugl a hyderus yn yr iaith ac mae hynny wedyn yn ei dro yn creu mwy o broblemau fel diffyg trosglwyddo iaith ac amharodrwydd i'w siarad.

Fe allai'r hyn sy'n digwydd yn Abergele fod yn esiampl i ardaloedd eraill yng Nghymru ac yn help i gwrdd â Strategaeth Iaith Gymraeg y Llywodraeth sy'n anelu i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 a dyblu'r defnydd o'r Gymraeg.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig