Y diwydiant llongau pleser yn 'rhoi hwb' i economi'r gogledd

Llun o long pleser, Viking Vela, cwch mawr gwyn wrth yml porthladd
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y llongau pleser sy'n ymweld â Chymru wedi cynyddu o 41 yn 2021 i 84 yn 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cynnydd yn nifer y llongau pleser, neu longau mordeithio, sy'n ymweld â Chymru wedi "rhoi hwb i economi a busnesau'r gogledd", yn ôl rhai sy'n gweithio o fewn y diwydiant twristiaeth.

Er bod niferoedd yr ymwelwyr o dramor i lawr yn gyffredinol o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, mae'r diwydiant llongau pleser yn parhau i dyfu.

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae nifer y llongau wedi cynyddu 100% - gan olygu bod disgwyl i thua 77,000 o ymwelwyr a 30,000 o griw ddod i Gymru eleni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai'r niferoedd hyn arwain at wariant posib o dros £7.5m yn ardal Ynys Môn yn unig.

Llun o Nia Jones, menyw gyda gwallt du yn gwenu yn sefyll tu blaen llong pleser
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Jones yn gweithio fel trefnwr llongau i gwmni Viking Cruises

Ers 2021 mae nifer y llongau sy'n ymweld â Chymru bob blwyddyn wedi cynyddu o 41 i 84 yn 2025.

Ym mhorthladd Caergybi, wrth i filoedd o dwristaidd gyrraedd ar longau Viking Cruises mae 'na drefniadau arbennig i'w tywys o amgylch gogledd Cymru.

Sophie Lee yw un o'r rhai sy'n gyfrifol am y teithiau hyn: "Ry' ni'n mynd a phobl i weld Rheilffordd Ffestiniog, Cestyll Caernarfon, Y Penrhyn a Biwmares, safle Halen Môn, Bragdy Cybi, South Stack yn ogystal â'r mynyddoedd.

"Maen nhw'n mwynhau gweld diwylliant a hanes Cymru," meddai.

'Rhoi Caergybi a gogledd Cymru ar y map'

Yn ôl Nia Jones, sydd hefyd yn trefnu digwyddiadau i deithwyr Viking, mae'r diwydiant yn bwysig iawn i'r gogledd.

"Mae'n bwysig iawn rhoi enw Caergybi ar y map fel porthladd ar gyfer llongau, ond hefyd fel cyfle i bobl ledled y byd weld Cymru a'i darganfod drostyn nhw eu hunain.

"Mae'n hwb i'r economi lleol a busnesau lleol… 'dan ni'n gweithio efo cyflenwyr lleol ac efo'r coaches.

"Mae'n bwysig iawn i gael Caergybi, gogledd Cymru ag Ynys Môn ar y map rhyngwladol."

Llun o Daniel Jones, dyn gyda barf hir yn gwenu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel Jones, sy'n berchen ar fusnes lleol, yn dweud iddo elwa o bresenoldeb llongau pleser yn yr ardal

Eleni daeth bron i 50,000 o bobl i Gaergybi ar longau pleser a'r disgwyl yw y bydd y ffigwr yna'n cynyddu dros 20% y flwyddyn nesaf.

Mae'r teithwyr yma yn cyfateb i hyd at 10% o'r holl ymwelwyr o dramor sy'n ymweld â Chymru - a'r gred yw eu bod yn cyfrannu £7.6m i'r economi, yn ôl Visit Wales.

Mae Daniel Jones, perchennog Bragdy Cybi yng Nghaergybi, yn dweud ei fod wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae'r llongau pleser ar fusnesau'r ardal.

"Mae'n dod â phres i mewn. Fel arfer, rydyn ni'n gwybod tua naw mis i flwyddyn ymlaen llaw faint o longau fydd yn dod i mewn ac erbyn hyn rydyn ni'n gwybod y cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

"Ry' ni'n mwynhau rhannu ein stori – rydyn ni'n hoffi siarad am y cwrw, am y busnes – ac maen nhw'n cael cacen gri, bara brith, a chaws lleol. Maen nhw hefyd yn cael ychydig bach o'r Gymraeg.

"Mae clywed un frawddeg o Gymraeg gan yr Americanwyr wastad yn wych, ac mae'n amlwg eu bod nhw'n mwynhau hynny – sy'n rhoi pleser mawr i ni hefyd."

Llun o Gareth Wyn Jones, dyn yn gwisgo het brown yn gwenu wrth sefyll o flaen mynydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Wyn Jones yn gobeithio gallu croesawu ymwelwyr o longau pleser i'w fferm

Mae Gareth Wyn Jones yn enw adnabyddus o fewn y diwydiant amaeth, ac mae o wedi hen arfer croesawu Americanwyr i'w fferm yn Llanfairfechan.

Ond y flwyddyn nesaf, mae'n gobeithio croesawu ymwelwyr o longau pleser y hefyd.

"Mae 'na gymaint fedrwn ni gynnig i'r bobl yma, ac maen nhw wrth eu boddau, meddai.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio efo'r Americanwyr ers dros ddegawd, ac rydyn ni'n gwybod faint maen nhw'n mwynhau'r cyfle i ddod yma i ogledd Cymru i weld y cŵn defaid yn gweithio, clywed am y merlod ar y Carneddau, a dysgu am hanes y llefydd arbennig yma.

"Gallwn ni greu rhywbeth arbennig yng ngogledd Cymru... Byddan nhw'n dod yn ôl i wario mwy o bres, i fwynhau'r ardal, y môr, y mynyddoedd… ein hiaith ni, ein diwylliant ni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig