Esgob yn gwybod am honiadau o gamymddwyn rhywiol ers blynyddoedd

Anthony Pierce
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Anthony Pierce ei garcharu ym mis Mawrth am achosion hanesyddol o gamdrin

  • Cyhoeddwyd

Roedd Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn ymwybodol o honiadau fod offeiriad yn ceisio manteisio'n rhywiol ar ddynion ifanc flynyddoedd cyn iddo gael ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar blentyn.

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cadarnhau fod yr Esgob Benjamin Vaughan wedi cael gwybod fod yna bryderon am ymddygiad Anthony Pierce tuag at fyfyrwyr gwrywaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn yr 80au.

Aeth Pierce ei hun ymlaen i fod yn esgob.

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn dweud nad oes yna gofnod ysgrifenedig fod yr Esgob Vaughan wedi ymateb yn briodol yn dilyn yr honiadau.

Anthony Pierce Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Chwefror eleni plediodd Anthony Pierce yn euog i bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed

Ym mis Mawrth eleni cafodd Pierce ei garcharu ar ôl pledio'n euog i bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed.

Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng 1985 a 1990.

Fe ddaw'r cadarnhad gan yr Eglwys yn dilyn ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates ym mis Gorffenaf.

Clywodd y rhaglen gan ddioddefwyr a gododd bryderon am ddiogelu o fewn yr Eglwys.

'Gwybod am hyn 40 mlynedd yn ôl'

Yn eu plith roedd Alisdair Adams, un o'r myfyrwyr a ddywedodd fod Pierce wedi ceisio ei feddwi a manteisio arno'n rhywiol pan oedd yn fyfyriwr 18 oed ym Mhrifysgol Abertawe.

Nid Mr Adams oedd yr unig un, ac yn dilyn cwyn fe gafodd Pierce ei wahardd o neuaddau a champws y brifysgol.

Er hynny fe barhaodd i weithio fel offeiriad a bu'n gaplan yn Ysbyty Singleton cyn cael ei ordeinio'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 1999.

Yn ei rôl fel esgob, Pierce oedd yn gyfrifol am ddiogelu.

Yn dilyn y cadarnhad fod yr honiadau wedi eu pasio ymlaen dywedodd Mr Adams ei fod yn grac: "Roedd y wybodaeth ganddyn nhw ond fe gafodd hynny ei wthio i'r neilltu.

"Mae'n dal i fy ngwylltio i eu bod nhw'n gwybod am hyn 40 mlynedd yn ôl.

"Fe allen nhw fod wedi ei stopio, ond wnaethon nhw ddim", ychwanegodd.

Mae'r Eglwys yng Nghymru hefyd yn ymchwilio i honiadau fod ffigyrau blaenllaw yn ymwybodol o honiadau eraill ynglŷn â Pierce yn 1993.

Chafodd yr honiadau hynny ddim eu pasio ymlaen i'r heddlu tan 2010.

'Dim tystiolaeth ysgrifenedig o ymateb priodol'

Mewn datganiad i'r BBC mae'r Eglwys yng Nghymru'n dweud iddyn nhw gwblhau ymchwiliad mewnol i'r ymateb i gwyn Alisdair Adams fod Anthony Pierce wedi ymosod yn anweddus arno ganol yr 80au.

Maen nhw'n cadarnhau i'r gwyn gael ei phasio ymlaen i'r Esgob Vaughan ac mai dyna oedd y drefn ar y pryd.

Maen nhw'n dweud hefyd y byddai'r drefn yn wahanol erbyn heddiw ac y byddai swyddogion diogelu o fewn yr Eglwys yng Nghymru wedi cael gwybod er mwyn ystyried camau pellach.

"Does yna ddim tystiolaeth ysgrifenedig o ymateb priodol, (fel camau disgyblu neu gysylltu gyda'r heddlu nac awdurdodau'r brifysgol)", meddai'r datganiad.

Mae'r wybodaeth wedi ei phasio ymlaen i'r adolygiad sy'n ystyried honiadau eraill yn erbyn Pierce ac ymateb yr Eglwys iddyn nhw, ac mae disgwyl i'r wybodaeth gael ei chynnwys yn yr adroddiad fydd yn dilyn.

Maen nhw wedi dweud wrth Mr Adams fod ei bryderon am ymddygiad Pierce wedi eu pasio ymlaen i Esgob Abertawe ac Aberhonddu Benjamin Vaughan, ond nad oedd cofnod ysgrifenedig i'r esgob ymateb yn ffurfiol.

Bu farw Mr Vaughan yn 2003 ond mae un clerigwr yn dweud iddo herio Pierce ar y pryd, a bod yntau wedi gwadu cyhuddiadau Mr Adams.

Mae Mr Adams yn dweud ei fod yn falch fod y caplan wedi pasio'r honiadau ymlaen ar y pryd ac ei fod yn dawel ei feddwl ei fod wedi eu cymryd o ddifrif.

"Ond fe roiodd clerigwyr mwy profiadol stop ar unrhyw weithredu", meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.