Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb ddrafft £14bn
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
"Mae ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yn golygu economi fwy ffyniannus, gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon fel bod modd i bobl gyflawni eu potensial a chyfrannu hyd yr eitha at y gymdeithas a'r economi," meddai.
Dywedodd y byddai £288m yn ychwanegol ar gael dros y tair blynedd nesaf ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd.
"Fe fyddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i iechyd," meddai wrth annerch Aelodau Cynulliad.
Cyhoeddodd Ms Hutt y byddai £27m yn ychwanegol ar gyfer ysgolion yn 2014-15.
Heb fwyafrif yn y Cynulliad fe fydd angen cymorth y pleidiau eraill i gael sêl bendith i'r gyllideb sy'n werth £14bn.
Pwysleisiodd y gweinidog fod buddsoddi cyfalaf yn hanfodol fel modd o ddarparu gwasanaethau a hybu'r economi.
"Bydd £75 miliwn ar gael dros tair blynedd ar gyfer cynllun creu gwaith i bobl ifanc a'r nod yw helpu 4,000," meddai.
Toriad
Roedd hyn, meddai, er bod yna doriad mewn termau real yn y gyllideb o 12% rhwng 2010-11 a 2014-15.
Dywedodd y byddai £55m ar gael dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer cynllun Dechrau'n Deg, y cynllun ar gyfer 18,000 o blant oedran meithrin.
Hefyd fe fyddai cyllid ar gael er mwyn cyflogi 500 o swyddogion cymunedol i helpu'r heddlu yng Nghymru.
"Bwriad y llywodraeth," meddai Ms Hutt, "yw bod yn gyfrifol a chredadwy fel llywodraeth."
Fe fydd yr Adran Dai, Adfywio a Threftadaeth yn colli bron 5% o'u cyllideb y flwyddyn nesa.
Ac fe fydd cyllid ar gyfer menter a busnes yn gostwng £8.9m i £271m.
Cadarnhaodd y gweinidog fod y llywodraeth yn ceisio cael yr hawl i godi arian o'r marchnadoedd.
Amddiffyn
Roedd y Ceidwadwyr wedi galw am amddiffyn lefelau gwariant ar iechyd, gan gyhuddo Llywodraeth Carwyn Jones o doriadau gwerth £1 biliwn ar ôl ystyried effaith chwyddiant.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, na allai'r llywodraeth honni bod hon yn "gyllideb ar gyfer swyddi a thwf" os oedd cyllideb y Gweinidog Economi'n cael ei chwtogi.
"Sut bydd y llywodraeth yn medru achub swyddi ac ymateb i argyfwng economaidd sy'n gwaethygu?"
Mae llefarydd cyllid y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, wedi dweud: "Mae'r gyllideb hon yn rhy ddof ... fydd hi ddim yn gwneud gwahaniaeth i anghenion Cymru.
"Rydyn ni'n croesawu mwy o wario ar ysgolion ond fydd e ddim yn arwain at yr adnoddau y mae plant Cymru eu hangen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd28 Medi 2011
- Cyhoeddwyd27 Medi 2011