Y gwrthbleidiau'n beirniadu'r rhaglen lywodraethu
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwrthbleidiau wedi dweud nad oes gan raglen lywodraethu Llywodraeth Cymru "dargedau ystyrlon".
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, nad oedd y rhaglen yn werth dim heb dargedau mesuradwy.
Mae Plaid Cymru a Cheidwadwyr Cymru hefyd wedi beirniadu rhannau o'r rhaglen.
Honnodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y rhaglen yn golygu y gall pleidleiswyr fesur llwyddiant y llywodraeth.
'Amwys'
Dywedodd Kirsty Williams: "Yr hyn yr ydyn wedi ei gael yw rhaglen amwys a di-uchelgais heb dargedau penodol o ran cyflawni polisïau ym maes yr economi, iechyd ac ysgolion."
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, fod 'na agweddau ar y rhaglen yn achosi pryder.
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, doedd rhaglen y llywodraeth "ddim yn cydnabod yr argyfwng yn yr economi".
Ychwanegodd: "Mae swyddi a busnesau'n cael eu colli bob wythnos yng Nghymru, ond mae'r llywodraeth i'w gweld yn gwbl ddiymadferth, heb unrhyw syniad am sut i helpu ..."
Mae'r rhaglen lywodraethu am y pum mlynedd nesaf yn amlinellu sut y bydd y llywodraeth Lafur yn gweithredu eu maniffesto.
Prentisiaeth
Yn ôl Carwyn Jones, mae'r rhaglen yn "heriol" ac yn un fydd yn gwneud y llywodraeth "yn fwy tryloyw".
Mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo'r llywodraeth o gymryd eu hamser cyn gwneud eu safbwyntiau'n glir.
Fe fydd y rhaglen yn cael ei diweddaru bob blwyddyn ac adroddiad yn cael ei gyhoeddi am yr hyn sydd wedi ei gyflawni.
Ymhlith y blaenoriaethau sy'n cael eu rhestru, mae rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc gael prentisiaeth a chyflwyno profion iechyd i bobl dros 50 oed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2011
- Cyhoeddwyd26 Medi 2011