Ail agor lein Amlwch gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf LlannerchymeddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r lein ddim wedi bod ar agor er 1993

Mae Lein Amlwch wedi cael trwydded oddi wrth Network Rail i ddechrau tynnu llystyfiant o ran o'r rheilffordd rhwng Amlwch a Gaerwen.

Bydd y drwydded yn golygu y bydd modd adfer 13 milltir rhwng Amlwch a Gaerwen.

Mae swyddogion yn gobeithio mai hwn yw cam cynta'r broses cyn dechrau cludo ymwelwyr ar drenau'r rheilffordd ymhen tair blynedd.

Fe'i hagorwyd yn wreiddiol ym 1864 ac wedi goroesi trafferth ariannol caeodd i deithwyr ym 1964 ac i draffig nwyddau ym 1993.

Atgyweirio

Mae Lein Amlwch yn gobeithio yn y pen draw y bydd y rheilffordd 17 milltir rhwng Amlwch a Gaerwen yn cael ei hail agor, a fyddai'n golygu bod y rheilffordd yn cysylltu â'r rhwydwaith rheilffordd genedlaethol.

Mae'r drwydded yn galluogi Lein Amlwch i ymchwilio i gyflwr y cledrau a'r pontydd rhwng Amlwch a Llangefni.

Wedyn bydd gwaith atgyweirio cyn dechrau defnyddio trenau ar y rheilffordd.

Er mwyn i drenau teithwyr fedru defnyddio'r lein unwaith eto, fe fydd rhaid moderneiddio'r system signalau, trwsio ac ailosod trac, pontydd a cheuffosydd.

Y bwriad yw cynnal gwasanaeth yn debyg i Reilffordd Ffestiniog sy'n cynnal 350 o swyddi.

Byddai'r lein yn rhedeg o Langefni drwy Lannerchymedd i Amlwch.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y dichonolrwydd economaidd o agor y llinell 4 milltir rhwng Amlwch a Gaerwen.

Yn gynharach eleni bu rhaid tynnu llystyfiant o'r lein er mwyn i ecolegwyr astudio'r amgylchedd naturiol ar hyd y lein er mwyn adnabod planhigion prin y bydd rhaid eu gwarchod os fydd y lein yn ailagor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol