Dim llais ffurfiol i'r Senedd wrth benodi cadeirydd S4C

Er eu bod yn cymeradwyo penodiad Delyth Evans, mae pwyllgor y Senedd yn credu y dylai fod yn rhan ffurfiol o benodiad cadeirydd S4C
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Senedd Cymru yn cael llais ffurfiol yn y broses o benodi cadeirydd S4C, meddai Llywodraeth y DU.
Roedd ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru ynghylch penodiad cadeirydd newydd S4C yn ddiweddar, ond nid oes unrhyw gynlluniau i newid y trefniadau hyn, meddai gweinidog Llywodraeth y DU.
Mae wedi gwrthod galwad pwyllgor diwylliant y Senedd i gael rôl ffurfiol, gan ddweud bod y system bresennol yn darparu digon o graffu ac atebolrwydd.
Mae pwerau dros ddarlledu yn nwylo Llywodraeth y DU, ond mae'r pwyllgor yn dweud ei bod yn "anomaledd" nad yw pwerau dros S4C "yn nwylo'r genedl lle mae'r iaith [Gymraeg] yn cael ei siarad yn bennaf".
- Cyhoeddwyd11 Medi
- Cyhoeddwyd12 Mai
Ysgrifennodd Delyth Jewell, cadeirydd pwyllgor diwylliant y Senedd, at ysgrifennydd diwylliant Llywodraeth y DU, Lisa Nandy, yn gofyn iddi gynnwys y Senedd yn ffurfiol yn y broses yn dilyn penodi cadeirydd newydd S4C, Delyth Evans, yn gynharach eleni.
Dywedodd Ms Jewell: "Er ein bod yn cydnabod bod darlledu yn fater sydd wedi'i gadw i Lywodraeth y DU, mae'n gysylltiedig yn annileadwy ag amrywiaeth o faterion datganoledig gan gynnwys y Gymraeg (sy'n arbennig o wir o ran S4C).
"Mae'n anomaledd nad yw'r pwerau dros yr unig ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy'n gweithredu'n unig yn y Gymraeg yn nwylo'r genedl lle mae'r iaith honno'n cael ei siarad yn bennaf.
"Felly, yn y dyfodol, credwn y dylai'r pwyllgor yn y Senedd sy'n gyfrifol am gyfathrebu a diwylliant gynnal gwrandawiad cyn penodi gyda'r ymgeisydd a ffefrir.
"Credwn y byddai'r craffu ar ddarlledu ac atebolrwydd y rhai sy'n gyfrifol am redeg sefydliadau darlledu yn gwella pe byddai'r Senedd yn cael rôl."
Mae'n nodi fod Llywodraeth Cymru wedi'i chynrychioli ar y panel asesu ymgynghorol.
Fodd bynnag, meddai: "Rydym o'r farn y dylai'r cyfrifoldeb am wneud penodiad o'r fath gael ei wneud ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru."

Mae'r trefniadau presennol "wedi gweithio'n dda", meddai Ian Murray
Mewn ymateb, dywedodd Ian Murray, gweinidog cyfryngau Llywodraeth San Steffan, nad oes gan Lywodraeth y DU "unrhyw gynlluniau i newid y prosesau penodi presennol".
Dywedodd Mr Murray fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o'r broses i benodi Delyth Evans yn gadeirydd S4C ym mis Mai.
Ychwanegodd y gofynnwyd i Lywodraeth Cymru awgrymu ymgeiswyr posibl, a bod cynrychiolydd ar banel asesu ymgynghorol ar benodiad Delyth Evans yn gadeirydd S4C.
Dywedodd Mr Murray fod y trefniadau hyn "wedi gweithio'n dda ac y bu cydweithio ac ymgynghori effeithiol."
Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod pwyllgor diwylliant y Senedd wedi gallu galw ar gadeirydd S4C i roi tystiolaeth ar ôl iddi gael ei phenodi.
Fe ddechreuodd Ms Evans yn ei rôl ar 1 Mai 2025, gan olynu Guto Bebb fu'n gadeirydd dros dro.
Roedd Ms Evans yn newyddiadurwr cyn cael ei hethol yn Aelod Cynulliad - fel yr oedd bryd hynny - dros y Blaid Lafur yn 2000.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.