Llywodraeth wedi 'ysbeilio' eu cronfa?

  • Cyhoeddwyd
Ieuan Wyn JonesFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Jones fod angen helpu busnesau

Mae Plaid Cymru yn honni bod Llywodraeth Cymru wedi 'ysbeilio' eu cronfa wrth gefn i dalu am eu haddewidion maniffesto.

Mae'r honiad yn dilyn y cyhoeddiad o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru am y flwyddyn nesaf ddydd Mawrth sy'n golygu y bydd rhaid bron i bob gwasanaeth cyhoeddus wynebu cynilion.

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt y byddai £288m yn ychwanegol ar gael dros y tair blynedd nesaf ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd.

Hefyd datganodd y byddai £27m yn ychwanegol ar gyfer ysgolion yn 2014-15.

'Helpu busnesau'

Ond bydd y cynnydd hwn mewn gwariant yn cael ei ddileu gan chwyddiant ac fe fydd y cyllid i ariannu'r cynlluniau hyn yn cael ei gymryd o gronfa wrth gefn y llywodraeth.

Mae hyn yn golygu bydd Llywodraeth Cymru â £127m, neu 0.95% o'u cyllideb wrth gefn ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru. Ieuan Wyn Jones: "Beth sydd wedi digwydd, wrth gwrs, yw eu bod nhw wedi ysbeilio eu cronfa wrth gefn i dalu am addewidion eu maniffesto ac o ganlyniad does dim llawer o arian wrth gefn i ymdrin ag argyfyngau.

"Rydyn ni'n mynd i wynebu argyfwng ynghylch yr economi - ni fydd yna ddim tyfiant eleni ac na fydd yna lawer o dyfiant y flwyddyn nesaf.

"Mae'n rhaid inni warchod ein sector gweithgynhyrchu a chadw swyddi yng Nghymru.

"Yr unig ffordd i wneud hynny yw helpu busnesau ac mae'n rhaid inni roi arian iddyn nhw i wneud hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y £288m yn ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn dod o gronfa wrth gefn y llywodraeth oedd yn dangos eu hymrwymiad i fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd.

Digwyddiadau annisgwyl

"Rydyn ni'n hyderus bydd yr arian o'r gronfa yn fwy na ddigon i ateb ein gofynion," ychwanegodd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo degau o filiynau o bunnoedd o'u cronfa wrth gefn i Fyrddau Iechyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol.

Y rheswm am hyn oedd galluogi'r byrddau osgoi orwario eu cyllidebau rhag iddynt dorri'r gyfraith.

Mae'r arian sydd yng nghronfa wrth gefn Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i ariannu digwyddiadau annisgwyl fel Clwy'r Traed a'r Genau.

Y disgwyl yw i drafodaethau rhwng y Blaid Lafur â 'r tair plaid arall i ddechrau cyn bo hir i sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ennill y bleidlais ar gyfer eu cynlluniau cyllid ar Ragfyr 6.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol