Byrddau diogelu plant o dan y lach
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad pum arolygiaeth wedi casglu nad yw Byrddau Lleol Diogelu Plant yn dangos yn effeithiol sut y maen nhw'n gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae'r adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener wedi honni nad yw'r byrddau'n cyflawni eu cyfrifoldebau statudol.
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi.
'Allweddol'
Ar ran y pum mudiad, dywedodd Imelda Richardson, Prif Arolygydd AGGCC: "Nododd yr adroddiad ffactorau allweddol oedd yn effeithio ar effeithiolrwydd y byrddau lleol.
"Dylai'r arweinyddiaeth fod yn fwy effeithiol ac mae angen datblygu cyfeiriad strategol.
"Prin yw'r dystiolaeth eu bod yn ymwneud â phlant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a chymunedau ehangach."
Mae'r adroddiad wedi amlinellu nifer o feysydd lle y gellir datblygu gweithio amlasiantaethol fydd yn gwella'r diogelu i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Fe gafodd y byrddau lleol eu sefydlu yn 2006 o dan Ddeddf Plant 2004 a hwy sy'n arwain gwaith diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc.
Saith
Mae aelodau'r byrddau yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol ac addysg awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG, gwasanaethau heddlu, gwasanaethau prawf a thimau troseddau ieuenctid.
Cynhaliwyd yr arolygiad rhwng Tachwedd 2010 a Mawrth 2011
O'r 19 o fyrddau lleol yng Nghymru ymwelodd yr arolygiaethau â saith, un ar gyfer pob rhanbarth iechyd.
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn annog y gwaith o wella gofal cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu, adolygu a rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisïau.