Bwriad i ddatblygu pwll bach nepell o'r Gleision
- Cyhoeddwyd
Mae bwriad i ddatblygu pwll glo bach tua milltir o bwll Y Gleision lle bu trychineb yn ddiweddar.
Rhaglen materion cyfoes Manylu ar Radio Cymru sy' wedi darganfod bod cwmni Western Carbons o Rydaman wedi cyflwyno cynlluniau i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ddatblygu pwll ar safle pum erw ar Fynydd Alltygrug ger Godre'r Graig.
"Ry'n ni'n gobeithio cyflogi dros 10 o ddynion unwaith mae'r cyngor wedi rhoi caniatâd i ni ddechrau," meddai Jeff McAvoy, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni.
"Unwaith y cewn ni'r caniatâd, ry'n ni'n gobeithio dechrau cyn gynted ag y gallwn ni."
Mae'r cwmni'n cyflenwi glo ar gyfer y diwydiant ffiltro dŵr.
Wrth i'r ymchwiliad i farwolaethau pedwar glöwr barhau, mae rhai wedi cwestiynu pa mor ddiogel yw gweithio yn y pyllau.
Ar Fedi 15 cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Bwll Y Gleision ar ôl i bedwar o bobl gael eu caethiwo yno.
Bu farw Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell.
Blaenoriaeth
Dywedodd Cwmni Western Carbons fod diogelwch yn flaenoriaeth.
"Ry'n ni o dan reolaeth y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ac ry'n ni'n gorfod gweithio gyda nhw," meddai Mr McAvoy.
"Nage gwaith caib a rhaw fydd gyda ni.
"Fydd dim tanio, na defnyddio ffrwydron dan ddaear ond byddwn ni'n defnyddio'r dechnoleg safa ar ga'l.
"Mae'n rhaid i chi gael y dechnoleg sy' mas 'na nawr - 'na'r unig ffordd ry'n ni'n gallu ei weithio fe'n ddigon saff."
Ond dywedodd y Cynghorydd Rosalyn Davies, sy'n cynrychioli ardal Godre'r Graig ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot, fod angen bod yn ofalus wrth ystyried unrhyw gynllun i ddatblygu pyllau glo newydd yn yr ardal.
'Gwersi'
"Fe fydden i'n awgrymu bod dim un cyngor yng Nghymru neu unrhyw le arall yn ystyried agor gwaith glo nes bod yr adroddiad i ddamwain y Gleision wedi ei gwblhau," meddai.
"Mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi ac rwy'n siŵr y byddwn ni yn gwneud hynny pan ddaw'r adroddiad mas."
Yn y cyfamser, dywedodd Wayne Thomas o Undeb y Glowyr fod trefniadau diogelwch llym ar gyfer y diwydiant glo.
"Mae'r diwydiant nawr mor saff â ma' fe'n gallu bod achos ma'r arolygwyr glofaol gyda ni yn mynd i mewn i'r pylle bach a'r pylle mawr ac yn rhoi'r un pwyslais ar ddiogelwch ynddyn nhw i gyd.
Swyddi'n brin
"Sdim ots pwy sy'n berchen arnyn nhw, yr un rheole sy 'na."
Fe dreuliodd Eurwyn Thomas o Flaendulais ger Castell-nedd fwy nac 20 mlynedd yn gweithio yn y pyllau bach yn ne Cymru.
Mewn ardal lle mae swyddi'n brin dywedodd fod nifer yn ddigon parod i weithio dan ddaear o hyd.
"Mae dynion yn mynd i ennill arian ble bynnag maen nhw'n gallu ennill arian.
"Ac mae'r arian mae pobl yn cael ei dalu yn y pyllau'n well na'r arian y byddai rhywun fel Tesco yn ei gynnig ..."
Manylu, nos Lun am 6pm ar BBC Radio Cymru.