Bachgen 'disglair' wedi marw ar ôl gwrthdrawiad beic cwad a thractor

Roedd Leon Arundel yn 14 oed ac yn byw yn Llangynog
- Cyhoeddwyd
Bu farw bachgen 14 oed yn Sir Gaerfyrddin wedi i feic cwad fod mewn gwrthdrawiad â thractor, mae cwest wedi clywed.
Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad y tu allan i eiddo yn ardal Llangynog ar 29 Hydref am 17:25, wedi adroddiadau fod bachgen wedi dioddef anafiadau difrifol.
Clywodd y cwest fod Leon David Arundel, a oedd yn byw yn Llangynog ac yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Taf, wedi cael ei gludo i Ysbyty Glangwili cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn Nghaerdydd.
Bu farw y diwrnod canlynol am 15:25.
Ymchwiliad yn parhau
Cafodd datganiad ei ddarllen yn y cwest ar ran ymgynghorydd pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru a oedd yn dweud fod Leon wedi dioddef anafiadau difrifol, ataliad ar y galon ac anaf difrifol i'w ymennydd.
"Nid oedd modd iddo oroesi," meddai.
Cafodd achos ei farwolaeth ei nodi fel camweithrediad mewn sawl organ, ataliad ar y galon a pholytrawma.
Cydymdeimlodd Uwch-grwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, Gareth Lewis, gyda'r teulu cyn gohirio'r cwest wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn "ymwybodol o'r digwyddiad ac yn gwneud ymholiadau pellach".
Teyrnged i fachgen 'disglair' fu farw wedi gwrthdrawiad yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd31 Hydref
Wedi marwolaeth Leon dywedodd Clwb Ffermwyr Ifanc Sanclêr fod eu "calonnau wedi torri ar ôl colli eu ffrind annwyl".
"Roedd Leon yn garedig, yn ofalgar ac yn aelod gwerthfawr o deulu Ffermwyr Ifanc Sanclêr," meddai'r clwb mewn datganiad.
"Nid oedd ganddo ofn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd neu gystadleuaeth o farnu stoc i dynnu rhaff.
"Rydym yn cydymdeimlo'n arw gyda'i deulu a'i gyd-aelodau yn y Ffermwyr Ifanc sy'n galaru wedi'r golled drasig yma."
Wrth rannu eu cydymdeimlad gyda'i deulu, dywedodd Clwb Pêl-droed Sanclêr fod Leon yn "berson ifanc disglair a gweithgar", gan gyhoeddi eu bod yn gohirio eu gemau ar gyfer y penwythnos fel arwydd o barch.
Roedd Leon hefyd yn chwarae i dîm dan-15 clwb rygbi Carmarthen Quins.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.