'Adfer ffydd pobl am gymryd degawd' - Arweinydd Cyngor Gwynedd

Nia Jeffreys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Jeffreys wedi bod yn arwain Cyngor Gwynedd ers 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud y gall gymryd hyd at ddegawd i bobl "ennill ffydd ac i hyder ddychwelyd" yn y cyngor, yn sgil adroddiad damniol i sut wnaeth y cyngor ddelio gyda chwynion yn erbyn y pedoffeil a'r cyn-brifathro, Neil Foden.

Daw'r cyfweliad gyda Newyddion S4C, dros wythnos ers i'r adolygiad diogelu plant i droseddau Foden ddatgelu bod dros 50 o gyfleoedd i atal y pedoffeil wedi eu methu gan yr awdurdod lleol.

Cyngor Gwynedd oedd ar fai am fwyafrif y methiannau ac mae'r cyngor wedi ymddiheuro ac wedi addo mynd i'r afael â phob un o'r argymhellion yn yr adroddiad, gydag arweinydd y cyngor yn barod i lywio'r awdurdod yn wyneb un o'r stormydd mwyaf yn eu hanes.

"Mae ffydd yn sero yn Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd, mae o am gymryd degawd neu fwy i adfer ffydd y cyhoedd, ond mae 'na gynlluniau mewn lle i edrych ar hyn," meddai'r Cynghorydd Nia Jeffreys.

Mae Nia Jeffreys wedi bod yn arwain y cyngor ers 2024 a dywedodd hi fod yr adroddiad yn un ofnadwy, ei bod hi'n "teimlo mor sori i'r dioddefwyr".

Mae hi'n teimlo "pob emosiwn dan haul", meddai, gan nodi tristwch a siom ac ychwanegodd ei bod hi hefyd yn flin fod hyn wedi digwydd a bod plant wedi cael eu gadael i lawr.

Ond methodd Ms Jeffreys â disgrifio pwy yn benodol yr oedd hi'n flin gyda nhw, oni bai am Foden ei hun.

Bydd angen mynd trwy'r adroddiad "llinell wrth linell, mynd trwy'r holl ganfyddiadau, pob un o'r missed opportunities", yn ei hôl hi.

Am ddioddefwyr Foden y mae Ms Jeffreys yn meddwl amdanynt, meddai.

'Methu troi fy nghefn'

Dywedodd Nia Jeffreys fod Foden yn "defnyddio pob tacteg, tacteg hyll o fwlio, grooming ac mai pobl wnaeth sefyll i fyny oedd y dioddefwyr a goroeswyr".

"Dwi wedi gwneud fy ymchwiliadau ac mae hynny yn glir.

"Dwi wedi rhoi bwrdd ymateb mewn lle a dwi'n addo rŵan dwi am weithredu ar yr adroddiad anodd yma a dwi am roi pethau mewn lle - fel nad ydy hyn yn digwydd eto," ychwanegodd Ms Jeffreys.

Pan ofynnwyd iddi os oedd unrhyw aelod o staff y cyngor yn wynebu camau disgyblu yn sgil cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd nad oedd hi'n gallu trafod unrhyw achosion yn ymwneud â threfn disgyblu'r awdurdod ar y mater.

"Dwi 'di dweud, fedra' i ddim troi fy nghefn ar hyn. Dwi'n derbyn yr adroddiad yn llawn.

"Y peth anodd yw cymryd y cyfrifoldeb a gwneud y gwaith a dyna beth dwi am ei wneud," ychwanegodd y Cynghorydd Jeffreys.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.