Cynhadledd i drafod addysg Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn dosbarthFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Bydd RhAG yn cyflwyno eu datganiad cenhadaeth

Bydd mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn croesawu Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg ynghyd â Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru i annerch eu Cynhadledd Flynyddol eleni.

Cynhelir y digwyddiad yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Abertawe.

Y disgwyl yw y bydd y Gweinidog Addysg yn amlinellu gweledigaeth y Llywodraeth o safbwynt cyflawni targedau'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a gafodd ei lansio yn 2010.

Dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG: "Fel mudiad sy'n gweithredu fel dolen gyswllt bwysig rhwng rhieni ac ysgolion Cymraeg a llywodraeth leol a chanol rydym yn ddiolchgar iddynt am eu parodrwydd i gynnal trafodaeth gyda'n haelodau.

Ffocws

"Cafwyd newidiadau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda lansio'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn 2010 ynghyd â'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldebau cynllunio a monitro datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn ganolog i'r Llywodraeth o Ebrill 2012 ymlaen.

"Amserol a phriodol yn ein tyb ni felly ydyw canolbwyntio ffocws y gynhadledd ar adolygu'r cynnydd a gafwyd hyd yma ynghyd â thrafod goblygiadau'r newidiadau hyn ar ddatblygiadau'r dyfodol."

Dywedodd Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG, y byddai cyfraniadau'r siaradwyr gwadd yn ganolbwynt i'r diwrnod.

Ychwanegodd: "Rydym yn edrych ymlaen at glywed y Gweinidog Addysg yn amlinellu gweledigaeth y Llywodraeth o safbwynt delifro ar dargedau'r Strategaeth ynghyd â sylwadau'r Comisiynydd Plant yn ei swyddogaeth fel prif eiriolwr plant Cymru."

Bydd RhAG hefyd yn rhyddhau dogfen arbennig a gynhyrchwyd er mwyn cyflwyno eu datganiad cenhadaeth ynghyd â chrynhoi gweithgarwch y mudiad ledled y wlad dros y blynyddoedd diwethaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol