Ymgyrchoedd yfed yn 'aneffeithiol'
- Cyhoeddwyd
Nid yw ymgyrchoedd y diwydiant alcohol i hybu 'yfed yn gyfrifol' yn cael fawr ddim effaith, a gallant hyd yn oed annog mwy o yfed.
Dyna un o brif gasgliadau adroddiad newydd gan Alcohol Concern sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.
Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan ymchwilwyr o Brifysgolion Glyndŵr a Bangor.
Mae ymchwilwyr o'r ddwy brifysgol wedi canfod fod negeseuon iechyd y diwydiant alcohol yn aml yn rhai amwys, ac yn aneglur am beth yw ymddygiad diogel o ran yfed alcohol.
Ychwanegodd yr ymchwilwyr fod negeseuon iechyd i'w cael yn aml yng nghyd-destun hysbysebion sy'n hyrwyddo diota fel dewis positif mewn bywyd.
Dywed awduron yr adroddiad bod ymgyrchoedd dan nawdd y diwydiant diodydd fel arfer yn dangos alcohol fel cynnyrch niwtral nad yw'n achosi problemau ond yn nwylo yfwyr anghyfrifol.
Ond mae tystiolaeth yn awgrymu ei fod yn sylwedd peryglus, a bod angen rheoli a rheoleiddio'n ofalus sut y caiff alcohol ei farchnata a'i ddosbarthu.
'Dim tystiolaeth'
Dywedodd arweinwyr yr ymchwil - yr Athro Rob Pool o Brifysgol Glyndŵr a'r Dr Catherine Robinson o Brifysgol Bangor - mai gwneud alcohol yn ddrytach ac yn fwy anodd ei gael oedd y dulliau mwyaf tebygol o leihau yfed a'r niwed sy'n deillio o alcohol.
Dywedodd yr Athro Iechyd Meddwl o Brifysgol Glyndŵr, Rob Poole:
"Mae nifer o ganfyddiadau allweddol cyson o ymchwil ryngwladol fodern ar leihau'n niwed y mae alcohol yn ei achosi.
"Yn benodol, codi prisiau a lleihau argaeledd yw'r dulliau mwyaf effeithiol.
"Mewn gwirionedd, nid oes dim tystiolaeth argyhoeddiadol bod ymgyrchoedd am yfed yn gyfrifol yn cael effaith bositif o gwbl.
"Mae'r gwrthdaro â buddiannau'r diwydiant alcohol mor nodedig nes bod nifer o gyrff iechyd annibynnol, gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, yn credu na ddylai fod gan y diwydiant ddim rôl mewn llunio polisïau na hybu iechyd mewn perthynas ag alcohol."
'Anghysondeb'
Dywedodd Rheolwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell:
"Mae anghysondeb amlwg rhwng honiadau'r diwydiant diodydd eu bod yn gweithio i hybu yfed yn synhwyrol, a'r angen iddynt werthu mwy o alcohol.
"Yn ôl un amcangyfrif, petai pawb yn y Deyrnas Unedig yn yfed o fewn y canllawiau, byddai elw'r diwydiant alcohol yn lleihau 40%.
"Does ryfedd, felly, fod y diwydiant yn canolbwyntio ei ymgyrchoedd hybu iechyd ar y tactegau sy'n lleiaf tebygol o wneud i ni gyd yfed llai, a'u bod yn awyddus iawn i basio'r cyfrifoldeb am unrhyw broblemau ymlaen i'w cwsmeriaid.
"Mae cwmnïau diodydd yn dweud wrthym am 'fwynhau' eu cynnyrch yn 'gyfrifol' - gan ein hannog i ddal i yfed ond gyda syniad niwlog am ei wneud mewn modd 'cyfrifol'.
"Ar yr un pryd, mae rhannau mawr o'r diwydiant diodydd wedi gwrthwynebu codi prisiau a lleihau argaeledd, sef y ddau beth sydd fwyaf tebygol o daclo'r arfer o yfed er mwyn meddwi."
'Partneriaeth'
Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant:
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos y sylfaen o dystiolaeth sy'n cefnogi polisïau i reoli pris ac argaeledd alcohol, ac i gyfyngu ar ei hysbysebu a'i hyrwyddo er mwyn diogelu plant a phobl ifanc.
"Rwy'n croesawu'r adroddiad yma ac yn edrych ymlaen at barhau ein partneriaeth lwyddiannus gydag Alcohol Concern Cymru, gan weithio i wellau bywydau pobl yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011