'Ymateb siomedig' gweinidogion i S4C

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys S4CFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae S4C wedi bod heb brif weithredwr am flwyddyn ac yn wynebu trafferthion

Mae arbenigwr y cyfryngau wedi dweud bod ymateb Llywodraeth Cymru i drafferthion S4C yn siomedig.

Dywedodd yr Athro Ian Hargreaves o Brifysgol Caerdydd wrth bwyllgor Aelodau Cynulliad ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru weithredu wrth ystyried dyfodol y sianel.

Mae S4C wedi wynebu sawl problem yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae trafodaethau am gytundeb cyllido newydd gyda'r BBC yn parhau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn trafod dyfodol S4C yn gyson.

Problemau

Bu'r sianel heb brif weithredwr am flwyddyn wedi i Iona Jones adael ac mae'n wynebu nifer o broblemau, gan gynnwys bygythiad i swyddi a chwymp yn nifer y gwylwyr.

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn protestio yn erbyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i'r BBC.

Yn 2010, fe gynhaliodd yr Athro Hargreaves adolygiad o'r diwydiannau creadigol, dolen allanol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru - Adolygiad Hargreaves.

Un o'i argymhellion oedd yr angen i greu deialog gyhoeddus a pherthynas wleidyddol agosach gydag S4C.

Dywedodd yr athro wrth y pwyllgor, sy'n clywed tystiolaeth am ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru, nad oedd yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu eu hargymhellion.

'Llwyddiant'

"Nid wyf yn credu bod llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon parod i ymateb ... rwy wedi fy siomi oherwydd ymateb Llywodraeth Cymru.

"Rwy wedi dilyn y sefyllfa yn agos iawn a dwi'n meddwl bod cyfle a chyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru yn yr achos hwn.

"Fy nheimlad yw ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru ddechrau gweithredu."

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn hapus gyda'r modd y maen nhw wedi delio gyda mater S4C dros y flwyddyn ddiwethaf - dwi'n amau bod neb yn hapus.

"Ond mae'n bosib troi'r trefniadau newydd yn llwyddiant beth bynnag fydd y rheini yn y pen draw."

Pryderon

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi mynegi eu pryderon i Lywodraeth y DU am effaith y toriadau ar S4C.

"Er bod cyfrifoldeb am, a chyllido, S4C yn fater i Lywodraeth y DU, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir - mae'r cynnig y dylai cyllid S4C yn y dyfodol ddod oddi wrth y BBC yn hollbwysig i Gymru, yr iaith Gymraeg a'r sector diwydiannau creadigol.

"Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones a'r Gweinidog Treftadaeth Huw Lewis wedi dweud ei bod hi'n hanfodol i S4C barhau yn annibynnol yn olygyddol ac yn weithredol oddi wrth y BBC.

"Mae'n bwysig i'r drefn gyllido gael ei gosod ar seiliau hir dymor, cadarn.

"Rydym yn credu bod angen adolygiad sylfaenol o S4C er mwyn llunio strwythur y sianel yn y dyfodol."