Cymeradwyo gwahardd peiriannau sigaréts
- Cyhoeddwyd
Mae gwaharddiad ar werthu sigaréts o beiriannau yng Nghymru wedi cael sêl bendith derfynol Llywodraeth Cymru.
Mae'r gwaharddiad eisoes mewn grym yn Lloegr, ond dywedodd swyddogion fod heriau cyfreithiol wedi golygu oedi yng Nghymru.
Bydd y gwaharddiad yn weithredol yma o Chwefror 1, 2012.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd fod y mesur yn rhan o ymdrech ehangach i atal pobl ifanc rhag ysmygu.
Dywedodd Lesley Griffiths AC: "Nid yw cod gwirfoddol wedi bod yn effeithiol yn cyfyngu mynediad pobl ifanc at sigaréts o beiriannau."
Mae ysgrifennydd cymdeithas feddygol BMA Cymru, Dr Richard Lewis, wedi croesawu'r gwaharddiad, gan ddweud fod ysmygu yn un o'r heriau mwyaf i iechyd cyhoeddus yng Nghymru heddiw.
3,000 o beiriannau
"Gobeithio y gwelwn ni waharddiad tebyg ar siopau'n arddangos sigaréts yn fuan," meddai.
"Mae'n gyfle go iawn i gynorthwyo i amddiffyn plant rhag cael bywyd o ddibyniaeth a'r clefydau sy'n mynd law yn llaw gydag ysmygu."
O fis Hydref, mae tafarnau, clybiau a thai bwyta yn Lloegr sy'n defnyddio peiriannau gwerthu sigaréts wedi wynebu dirwy o £2,500.
Yn ôl ymchwil, mae 10% o ysmygwyr rhwng 10 a 15 oed yn prynu eu sigaréts o beiriannau o'i gymharu ag 1% o bob ysmygwr.
Bydd Rheolau Amddiffyn Rhag Tybaco (Gwerthiant o Beiriannau) (Cymru) 2011 yn dechrau o Chwefror 1 y flwyddyn nesaf.
Byddant yn cael eu gweithredu yn lleol gan swyddogion safonau masnach.
Mae'r llywodraeth yn amcangyfrif bod 3,000 o beiriannau gwerthu sigaréts yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2011