Cymru'n codi 45 safle yn y byd

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn dathlu

Mae llwyddiant pêl-droedwyr Cymru yn ddiweddar wedi cael ei adlewyrchu yn rhestr detholion diweddaraf y byd.

Yn dilyn tair buddugoliaeth yn eu pedair gêm olaf yn y grŵp rhagbrofol, tim Gary Speed sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf o holl wledydd y bydd.

Gan iddyn nhw guro Montenegro, Y Swistir a Bwlgaria, mae Cymru wedi ennill 245 o bwyntiau ar y rhestr.

Roedd Cymru yn safle 90, ond maen nhw bellach wedi codi i safle 45.

Mae Cymru bellach yn uwch na'r Weriniaeth Siec (47), Yr Alban (51) a'r ddwy wlad fydd yn cynnal pencampwriaeth Euro 2012 ar y cyd - Wcráin (58) a Gwlad Pwyl (64).

Wedi mis o ganlyniadau gwael mae Gogledd Iwerddon wedi disgyn 14 safle i rif 84 tra bod Lloegr wedi codi un safle i 7fed ar draul Portiwgal.

Sbaen sy'n parhau ar y brig ac mae'r bwlch at yr ail dîm - Yr Iseldiroedd - wedi cynyddu'n sylweddol.