Bwlgaria 0-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn dathlu ar ôl sgorio unig gol y gêm

Mae rhediad gwych diweddar tîm pêl-droed Cymru wedi parhau gyda buddugoliaeth wych oddi cartref yn erbyn Bwlgaria.

Gallai Cymru fod wedi gorffen yn drydydd yn eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Euro 2012 gyda triphwynt yn Sofia.

Ond er i Gymru lwyddo i wneud hynny, fe fyddai angen i Montenegro fod wedi curo'r Swistir nos Fawrth er mwyn gwneud ffafr gyda thîm Gary Speed.

Roedd y Swistir yn fuddugol o 2-0 yn erbyn Montenegro, ond doedd hynny'n tynnu dim o gamp Cymru.

Roedd Cymru wedi colli pedair gêm yn olynnol yn Euro 2012 cyn curo Montenegro , dolen allanolym mis Medi.

Ac yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn y Swistir yn Abertawe nos Wener diwethaf, roedd digon o hyder gan dîm Gary Speed.

Gyda'r ymwelwyr yn rheoli'r chwarae yn llwyr bron, roedd gôl yn siwr o ddod.

Gareth Bale - a gafodd ei goroni yn chwaraewr y flwyddyn yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynnol yn ddiweddar - a'i sgoriodd ym munud olaf yr hanner cyntaf.

Gyda Bwlgaria wedi diswyddo'u hyfforddwr Lothar Mattheus yn ddiweddar, roedd yna anniddigrwydd ymysg y cefnogwyr cartref, ac roedd hynny'n cael ei adlewyrchu yn chwarae'r tîm.

Roedd Cymru'n rheoli'n llwyr, a phetai Craig Bellamy, Bale ac Aaron Ramsey wedi llwyddo gyda chynigion yn yr ail hanner, fe allai'r sgor fod wedi bod yn llawer uwch.

Ond fe fydd Gary Speed yn hynod o falch o'r perfformiad a'r canlyniad, a gyda Chymru'n ennill tair o'u pedair gêm olaf yn y grŵp fe fydd gan y tîm fomentwm wrth baratoi ar gfyer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd fydd yn dechrau ym mis Medi 2012.

Euro 2012 - Grŵp G: Tabl terfynol