Cyhoeddi rhestr fer gwobr lenyddol

  • Cyhoeddwyd
Peter Stead gyda'r llyfrau sydd ar y rhestr ferFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y beirniaid fod rhywbeth i gyffroi a herio'r darllenwr

Mae tri sydd wedi ysgrifennu eu nofelau cyntaf ymhlith y rhai wedi eu cynnwys ar restr fer Gwobr Dylan Thomas 2011.

Mae pum llenor bellach yn cystadlu am y wobr sy'n werth £30,000.

Dywedodd cadeirydd Gwobr Dylan Thomas, yr Athro Peter Stead, fod y rhestr fer yn "cyfuno gallu llenyddol gyda llyfrau sy'n ddarllenadwy ac a ddylai godi diddordeb sylweddol ymysg darllenwyr".

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno mewn seremoni arbennig yn Abertawe ar Dachwedd 9.

Y pum awdur ar y rhestr yw Annabel Pitcher, Benjamin Hale, Tea Obrecht, Jacob McArthur Mooney a Lucy Caldwell a fu hefyd ar y rhestr fer yn 2006.

Gwobr Dylan Thomas, sy'n cael ei noddi gan Brifysgol Cymru, yw un o'r gwobrau ariannol mwyaf hael yn y byd i lenorion ifanc.

Fe gafodd y wobr ei lansio yn 2004 fel cystadleuaeth bob dwy flynedd gyda gwobr o £60,000, ond y llynedd fe gafodd ei newid i fod yn wobr flynyddol gan haneru'r wobr ariannol.

Mae'r wobr ar gael i awduron rhwng 18 a 30 oed sydd wedi gweld eu gwaith wedi ei gyhoeddi, ac sy'n ysgrifennu yn Saesneg.

Gall y gwaith fod yn nofel, barddoniaeth, straeon byrion neu ddrama, ac fe all pobl o bedwar ban byd gystadlu.

'Rhestr amrywiol'

Cadeirydd y beirniaid eleni yw Peter Florence, cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli Gandryll.

Ynghyd a'r Athro Stead, mae'r panel yn cynnwys y bardd ac academydd o America yr Athro Kurt Heinzelman, y prifardd Dr Mererid Hopwood, y cyn Aelod Seneddol Dr Kim Howells, colofnydd y Daily Telegraph Allison Pearson ac enillydd cyntaf y wobr Rachel Trezise.

Ychwanegodd yr Athro Stead: "Fe welsom ymgeiswyr o fath gwahanol eleni, ac mae hyn yn cael ie adlewyrchu mewn rhestr fer amrywiol.

"Mae rhywbeth yma i gyffroi ac i herio bob math o ddarllenwr.

"Rydym yn falch iawn, unwaith eto, o flas rhyngwladoly rhestr ac rydym yn edrych ymlaen i'r pum awdur yn dod i Gymru a siarad gyda myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau cyn y seremoni wobrwyo ym mis Tachwedd."

Dyma fydd y drydedd flwyddyn i Brifysgol Cymru noddi'r digwyddiad.