Llafur Cymru yn dileu negeseuon wedi llythyr cyfreithiol gan Reform

logoFfynhonnell y llun, Getty Images/EPA
  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur Cymru wedi dileu cyfres o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl derbyn llythyr cyfreithiol ffurfiol gan Reform UK.

Roedd y negeseuon a gafodd eu rhannu yn awgrymu fod ymgeisydd Reform yng Nghaerffili â chysylltiadau â Vladimir Putin - honiad sy'n cael ei wadu'n gryf gan y blaid.

Cyfeiriwyd hefyd at honiadau o lwgrwobrwyo a oedd yn ymwneud ag arweinydd blaenorol Reform UK.

Fe ddaw hyn ar ôl i Newyddion S4C ddatgelu hynny, ac rydym yn deall fod y llythyr wedi'i gyflwyno o dan y Ddeddf Enllib a'r Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

Ers cadarnhau eu bod wedi derbyn y llythyr, mae Llafur Cymru wedi tynnu'r negeseuon o'u cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol a hynny "ar gais Reform UK".

Mae'r Ddeddf Enllib yn diogelu unigolion rhag datganiadau ffug a all niweidio eu henw da, tra bod Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn gosod rheolau llym ar hawliadau ffug yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.

Mae Nathan Gill wedi cyfaddef cyhuddiadau o lwgrwobrwyoFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan Gill wedi cyfaddef cyhuddiadau o lwgrwobrwyo

Cyfeiriodd y negeseuon at Nathan Gill, cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, sydd wedi cyfaddef iddo dderbyn taliadau i hyrwyddo safbwyntiau o blaid Rwsia tra'n gwasanaethu fel Aelod Seneddol Ewropeaidd.

Mae Gill, 52, o Langefni, wedi pledio'n euog i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK wrth Newyddion S4C fod Llafur Cymru wedi "colli eu gafael, colli pobl Cymru, a cholli'r ddadl ac nad ydyn nhw'n dymuno cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth arw".

Mae llyfrgell hysbysebion Meta yn dangos fod Llafur wedi talu am dair hysbyseb a oedd yn honni, neu'n awgrymu bod Llŷr Powell wedi camymddwyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Er ein bod wedi dileu'r negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ar gais Reform UK, mae cwestiynau'n parhau ynghylch pam y dewisodd Reform UK lefarydd dros Rwsia i fod yn arweinydd iddyn nhw yng Nghymru.

"Ni fydd Llafur Cymru yn peidio â gofyn y cwestiynau hyn."

Daw hyn wrth i'r is-etholiad yng Nghaerffili nesáu, gyda'r diwrnod pleidleisio ar 23 Hydref.

Yr ymgeiswyr sydd wedi'u cadarnhau yw Richard Tunnicliffe (Llafur Cymru), Lindsay Whittle (Plaid Cymru), Gareth Potter (Ceidwadwyr Cymreig), Llŷr Powell (Reform UK), Gareth Hughes (Plaid Werdd Cymru), Steven Aicheler (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Roger Quilliam (UKIP) ac Anthony Cook (Gwlad).

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig