Prifysgol Abertawe yn penodi darlithwyr cyfrwng Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Abertawe wedi penodi pum darlithydd cyfrwng Cymraeg newydd, gyda phedwar ohonynt dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Maent wedi eu penodi i ddysgu ym meysydd Daearyddiaeth, Ieithoedd Modern, Hanes ac Astudiaethau'r Cyfryngau.
Bydd Kate Evans yn ddarlithydd Daearyddiaeth yng Ngholeg y Gwyddorau.
Mae Dr Geraldine Lublin, sy'n hanu'n wreiddiol o'r Ariannin, wedi'i phenodi yn ddarlithydd Sbaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Adran Ieithoedd, Cyfieithu a'r Cyfryngau.
Darlithydd arall a benodwyd i Adran Ieithoedd, Cyfieithu a'r Cyfryngau yn Abertawe yw Dr Sophie Smith.
Y penodiad olaf ym Mhrifysgol Abertawe dan Gynllun Staffio'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw Dr Gethin Matthews sydd wedi ymuno â'r Adran Hanes a Chlasuron.
Y mae ei benodiad ef yn unigryw ymhlith y penodiadau newydd a wnaed gan y Coleg Cymraeg gan y bydd Dr Matthews, er ei fod wedi'i leoli yn Abertawe, yn cydweithio ag adrannau Hanes ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd er mwyn datblygu darpariaeth gydweithredol ym maes hanesyddiaeth.
Tra bo'r penodiadau hyn wedi'u gwneud trwy gyfrwng cefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi penodi Dr Elain Price fel darlithydd Astudiaethau'r Cyfryngau.
Bydd Dr Price yn parhau i ymchwilio i ran S4C ym mywyd cyhoeddus a diwylliannol y genedl ynghyd â chroniclo hanes a thwf rhaglenni teledu i blant yn y Gymraeg a ffyniant y sector gynhyrchu annibynnol yng Nghymru dros y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf.
'Elwa'n eithriadol'
Dywedodd Yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
"Mae'r penodiadau yn caniatáu i Brifysgol Abertawe gyfoethogi'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli gan roi'r pwyslais ar ddysgu trwy ymchwil ar y lefel uchaf.
"Mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod cefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a thrwy'r cyllido hwn yr hyder a gaiff ei gyfleu yn y Strategaeth Cyfrwng Cymraeg gyffrous sy'n cael ei datblygu ym Mhrifysgol Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011