'Angen canolbwyntio ar yr economi'

  • Cyhoeddwyd
Y Farwnes Eluned Morgan o DreláiFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Y Farwnes Eluned Morgan o Drelái

Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol ganolbwyntio ar greu swyddi yn hytrach na cheisio creu cyfraith i atal rhieni rhag taro eu plant, yn ôl aelod o Dŷ'r Arglwyddi.

Dywedodd y Farwnes Eluned Morgan o Drelái, cyn Aelod Seneddol Ewropeaidd Llafur, ei bod o'r farn fod ei phlaid angen gwell perthynas a'r byd busnes.

Fe wnaeth ei sylwadau yn ystod darlith yn Llyfrgell Cenedlaethol Cymru Aberystwyth er cof am y darlledwr a'r newyddiadurwr, Patrick Hannan.

Dywedodd y Farwnes Morgan fod angen i aelodau ei phlaid newid eu hagwedd l tuag at y byd busnes, yn enwedig pan fod yna wasgu ar yr economi a swyddi.

Ychwanegodd fod y blaid wedi sylweddoli hynny pan ddaeth Tony Blair yn Brif Weinidog "ond ni wnaeth y blaid Lafur yng Nghymru symud yn llwyr i'r un cyfeiriad," meddai.

"Yng Nghymru rwy'n credu fod yn rhaid i ni ailddiffinio ein perthynas oherwydd nad oes yna ddewis arall os yr ydym am greu swyddi yng Nghymru, " meddai mewn cyfweliad gyda rhaglen y Politics Show ar BCC Cymru.

Dywedodd y dylai'r pwyslais ar greu swyddi fod yn flaenoriaeth i bob AC nid yn unig aelodau Llafur.

"Fe wnaethom roi lawer o amser i drafod taro plant yr wythnos hon.

"Wrth gwrs mae'r pwnc yn un pwysig, ond mewn cyfnod o argyfwng a pan nad oes sicrwydd y bydd yna unrhyw weithredu rwy'n credu fod angen treulio amser yn gwella perthynas gyda'r sector preifat er mwyn sicrhau buddsoddiad yng Nghymru."

Ddydd Mercher pleidleisiodd y cynulliad o blaid yr egwyddor o wahardd rhieni rhag taro eu plant.

Ond yn ôl y Llywodraeth Cymru fydd gwaharddiad o'r fath ddim yn cael ei gyflwyno cyn 2016, fan cynharaf.