Comisiynydd y Gymraeg i ymchwilio i'r Gwasanaeth Carchardai

- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd yn agor ymchwiliad i ystyried sut mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn gweithredu eu cynllun iaith Gymraeg.
Daw'r ymchwiliad wedi cwynion gan gyn-garcharorion yng ngharchar mwyaf Cymru bod staff yn gorfodi siaradwyr Cymraeg i droi i'r Saesneg.
Wrth siarad ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Lerpwl, roedd nifer o gyn-garcharorion wedi dweud fod yna "elyniaeth lwyr tuag at yr iaith gan staff" yng Ngharchar y Berwyn, Wrecsam.
Dywedodd un ei fod wedi cael rhybudd i beidio â siarad Cymraeg yn ystod cyfarfod gyda'i gyfreithiwr oedd i fod yn breifat a chyfrinachol.

Mae lle i 2,100 o garcharorion yng ngharchar y Berwyn
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones: "Fel sefydliad sy'n gweithredu cynllun iaith, ac yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae'n ofynnol i Wasanaeth y Carchardai gyflwyno cynllun i'r Comisiynydd sy'n nodi sut y bydd yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yn Gymraeg."
"Mae'r Gwasanaeth wedi cyflwyno cynllun diwygiedig yn ddiweddar, ac ynddo mae'n ymrwymo i wella ei ddarpariaeth i garcharorion ac i'r cyhoedd.
"Yn sgil pryderon a godwyd yn ddiweddar ynghylch gweithrediad y cynllun, ac yn dilyn ymweliad â Charchar y Berwyn yr wythnos hon, lle cefais gyfle i drafod y ddarpariaeth â staff a charcharorion, rwyf wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i'r modd y caiff y Gymraeg ei thrin ar draws y Gwasanaeth Carchardai."
Carcharorion yn honni cael eu "herio" wrth siarad Cymraeg
Yn eu hymchwil, mae Dr Robert Jones a Dr Gregory Davies yn honni "ei bod yn amlwg nad yw'r iaith Gymraeg yn cael ei thrin ar sail cydraddoldeb gyda'r Saesneg yn y Berwyn" a bod "plismona'r Gymraeg gan staff y Berwyn wedi amlygu ei hun fel thema gyson drwy gydol ein cyfweliadau".
Fe wnaeth Robert Jones a Gregory Davies gynnal cyfweliadau ag wyth cyn-garcharor Cymraeg eu hiaith, oedd yng Ngharchar y Berwyn rhwng 2018 a 2022.
Dywedodd sawl unigolyn eu bod wedi cael eu herio gan swyddogion carchar wrth siarad Cymraeg gyda chyd-garcharorion.
Mewn rhai achosion, gofynnwyd iddyn nhw esbonio'r hyn gafodd ei ddweud, ar achlysuron eraill fe wnaeth staff eu gorfodi i newid i'r Saesneg.
Roedd llefarydd ar ran y carchar wedi dweud eu bod yn "croesawu'r defnydd o'r iaith Gymraeg gan garcharorion, ymwelwyr a staff, ac yn cymryd pob cwyn o ddifrif".

Agorodd Carchar y Berwyn yn 2017
Nod yr ymchwiliad, yn ôl y Comisiynydd, yw sicrhau bod y cynllun iaith yn cael ei weithredu'n effeithiol mewn carchardai.
"Fel y nodais yn ddiweddar, os nad oes gennyf sicrwydd neu hyder fel rheoleiddiwr fod sefydliadau yn cydymffurfio â'r gofynion statudol, byddaf yn ymchwilio i'r materion hynny ac yn cymryd camau pendant lle bo angen.
"Byddaf yn cyhoeddi canlyniadau'r ymchwiliad unwaith y bydd wedi ei gwblhau," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref
